Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Edrych nol ar y Steddfod...

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 18:28, Dydd Mawrth, 10 Awst 2010

Steddfod arall di dod i ben. Gutted.

Dwi'n meddwl o'dd Steddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn un llwyddiannus dros ben a licen i longyfach Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith - Richard Davies a phawb arall fu'n rhan o'r trefnu.

Mi odd 'na gwyno, grwgnach a chwmpo mas ar Taro'r Post fel ym mhob Steddfod - ond roedd egni, ymroddiad, balchder a chroeso pobl yr ardal 'di neud hi'n steddfod arbennig a bythgofiadwy.

Mi odd criw C2 yn gweithio ym Maes B drwy'r wythnos. Ro'dd y 9 ohono ni yn aros mewn winabegos ar y maes carafanne, sy yn swnio mooooor posh fi'n gwbod. Ond credwch chi fi - ar ôl wthnos o ddefnyddio'r tai bach cemegol, gorfod dringo lan a lawr ysgol bren er mwyn mynd i'r ty bach ganol nos, rhannu gwely, a byw mas o gês - dyw e ddim mor glam a ma'n swnio. A gwagio'r elsan??! Nai ddim hyd yn oed dechre.....

Yr uchafbwyntie i fi eleni oedd:

YM MAES B
* Setie Crash Disgo, Promatics, Derwyddon, Y Bandana, Yr Angen - a phob artist nos Sadwrn (y nos Sadwrn ola nes i fwynhau fwya dwi'n meddwl)

LLWYFANNE PERFFORMIO'R MAES
* Meic Stevens, band newydd Alun Gaffey - Y Sbectol a set unigol Iwan Huws o Cowbois.

PETHE ERILL
* Darlith Mary Wiliam ar yr Wenhwyseg yn y Babell Lên. Odd hi'n fab!
* Y Clini-fws nath hebrwng ni i'r parti swigod ar y nos Sadwrn cynta. Dyle pawb fynd ar y Clini-fws unwaith oleia cyn iddyn nhw farw.
* Y sgwrs ges i gyda Phil a Geth o Gwibdaith nos Wener - o nhw yn lyfli!
* Cân y Tân gan Bandana - chiiiiaaaawn y Steddfod
* Argymhelliad Jeni Lyn - albym newydd yr Hwntws. Ma nhw'n ace
* Fy nith, Ella yn mynnu cal mynd i'r "castell pinc" ar y maes ac yna yn cael ei swyno gan hud yr awrygylch. Ond nath hi ofyn sut odd y dywysoges yn gallu cysgu tra bo gymaint o bobol yn canu a chlapio. (Y ddwy ohono ni yn llathen o'r un brethyn!)
* Y portalws hynod hyfryd nath gyrraedd tu fas in winabegos ni ar ddydd Gwener ola'r steddfod. (Falle nes i ddim son - o ni mewn maes parcio ar y maes carafanne - yn hytrach nag AR y maes carafanne ei hun). O nhw'n lush! Mi odd llunie a blodau a phapur ty bach a phopeth....

Ma na gwpwl o bethe bach nath ddim taro deuddeg ac mi gewch chi glywed be yn rhan 2 o fy mlog eisteddfodol... oooo - bet bo chi ar bigau'r drain!

M x

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.