Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2010

Glasto 2010

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 14:41, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Dyma gwpwl o gyfweliadau ges i gydag Osian Edwards ac Yr Ods yn yr wyl dros y penwythnos.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Glasto

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 10:22, Dydd Iau, 24 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Fi'n mynd i wyl Glastonbury penwythnos yma! Ydw i wedi fy nghyffroi yn lan? Do, do wir.
Mae'n wyl hudolus, mor dda a mae pawb yn dweud, ac yn eitha amhosib disgrifio i ddeud y gwir.
Os chi byth yn cael y cyfle, ma rhaid i chi fynd. Mae'n werth e i weld pa mor enfawr ydi'r wyl; mae fel dinas arall, ond yn llawn pethe gwych a gwallgof. Pan ma' pobl yn gofyn pwy fi'n edrych mlaen i weld yn chware, mae'n anodd ateb achos ma tua 2000 o fandie'n chware.
Bron iawn allech chi fynd yno heb weld un band penodol, achos ma gymaint o bethe erill i neud yno.
Ond fydd Snoop Doggy Dog, Yr Ods, Stevie Wonder, The XX, Dirty Projectors a Masters in France ar dop fy rhestr eleni.

Gallwch chi glywed dwy raglen wedi eu recordio yn Glasto ar fy rhaglenni nos Lun a nos Fawrth wthnos nesa.

Drygioni...

Hefin Thomas Hefin Thomas | 10:06, Dydd Mercher, 23 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Ar ôl clywed am John Terry yn cythruddo Fabio Capello ynghyd a helynt Nicholas Anelka a charfan Ffrainc yng nghwpan y byd, nes i benderfynu rhoi tim o fechgyn drwg cwpan y byd at ei gilydd. Gyda help Owain Llyr, ein arbennigwr pel droed, a'n gwrandawyr aethon ati i greu y tim anhygoel isod. Fel y gwelwch chi, mae'n dim gwych sy'n chwarae a system ymosodol 3-4-3 gyda rheolwr anhygoel, sef fi (gaiff Owain Llyr gario'r diodydd!)

Tim "Bechgyn Drwg" Cwpan y Byd C2

Golgeidwad
Harald Schumacher (Gorllewin yr Almaen, 1982 - Bwrw Partick Battison)

Amddiffyn...
Slaven Bilic (Croatia, 1998 - Cael Laurent Blanc di hel o'r maes)
Patrice Evra (Ffrainc 2010 - Ffraeo da rheolwr Ffrainc a cholli'r capteniaeth)
Bobby Moore (Lloegr 1970 - Cael ei arestio ar gyhuddiad o ddwyn breichled)

Canol cae...
Roy Keane (Gweriniaeth Iwerddon, 2002 - Ffraeo da rheolwr Iwerddon a cherdded i ffwrdd o'r garfan)
Zidane (Ffrainc, 2006 - Am benio Materazzi)
Ronaldo (Portiwgal, 2006 - Wincio I gael Rooney di hel o'r maes)
Rivaldo (Brasil 2002 - Smalio cael pel di daflu yn ei wyneb)

Ymosod...
Maradona (Ariannin, 1986 - Y law dduwiol, 1994 - Gwaharddiad am gyffuriau ac am saethu at newyddiadurwyr!)
Rooney (Lloegr 2006 - Sefyll ar Carvalho)
Rudi Voeller (Gorllewin yr Almaen, 1990 - Poeri at Frank Rijkaard)

Ar y fainc...
Beckham - Lloegr, 1998
Rene Higuita - Colombia, 1990
John Terry - Lloegr, 2010
Frank Rijkaard - Iseldiroedd, 1990

Rheolwr
H Thomas

Dyn y sbwng hud
O Llyr

Unrhyw awgrymiadau eraill?

Richard James

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 09:52, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Neithiwr ar fy rhaglen roedd Richard James yn westai. Mae Rich ar fin rhyddhau ei ail albym, We Went Riding ar label Gwymon, ei gartref newydd. Mae;r albym yn un gwych, wedi ei chynhyrchu yn fentrus gan Iwan 'Recall' ac yn cynnwys llwyth o offerynnau wedi eu chwarae gan amryw o gerddorion talentog, yn cynnwys cyn Gorky gyda Rich Euros Childs yn canu, Sion Glyn a Andy Fung.

Yn fyw mae Richard James yn llwyddo i fod yn bersonol ac agos atoch yn ogystal a cael pobl i symud, rhwybeth sydd yn amlwg ar yr albym newydd hefyd. Mae dyfnder a phrydferthwch yn ei ganeuon personol, ond mae positifrwydd y gerddoriaeth yn atal yr albym rhag bod yn un rhy drist. Gwrandewch eto ar y sgwrs gyda Rich a tracie oddi ar yr albym newydd YMA.

Heno

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 12:05, Dydd Llun, 14 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Heno ar fy rhaglen, fydd ne ddim byd ond curiadau. Dim gitars, dim drymie, dim bas. Dim ond curiadau cyflym o'r byd dawns, sy'n ffynu yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd mics arbennig gan y cynhyrchydd Plyci yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf, a bydd tracie gan Haku Tokinawa, Y Lembo, Crash! Disco a Cloud Formations ar y rhaglen heno am 10pm. Tiwiniwch mewn.

Stuart Cable

Huw Stephens Huw Stephens | 12:12, Dydd Llun, 7 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Roedd e'n drist iawn clywed am farwolaeth Stuart Cable. Ar ôl cychwyn yn Tragic Love Company nath droi mewn i'r Stereophonics, ffeindio enwogrwydd gyda'r band a teithio o amgylch y byd, nath Stuart fynd mlaen i gael llwyddiant fel darlledwr a gyda'i fand newydd Killing for Company.

Nes i ddim cwrdd a neb gyda gair drwg i ddweud am Stuart Cable. Roedd e wastad yn barod am sgwrs, wastad yn ddoniol. Ro'n i'n cyffroi pan o'n i'n ei weld e yn y BBC yng Nghaerdydd, lle roedd e'n cyflwyno ei raglenni radio, achos roedd e wastad yn bleser ei weld e, a fydde eich dydd yn cael eu gyfoethogi os oeddech chi'n siarad ag e.

Roedd ei gariad tuag at gerddoriaeth roc, at Gymru, at bobl a tuag at fywyd yn heintus.
Bydd colled mawr ar ei ôl e.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.