Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Unnos6: Dewch At Eich Gilydd

Categorïau:

Gareth Iwan | 21:42, Dydd Mawrth, 16 Chwefror 2010

Cofiwch am 11pm (gobeithio) mi fydda ni'n cyhoeddi mp3 i chi fedru ei lawrlwytho i ail-gymysgu un o draciau Unnos Race Horses. Mi fydda ni wedyn yn cyhoeddi rhai o'r remixes yna ar wefan C2, ac o bosib yn cynnwys un ar raglen goreuon Sesiwn Unnos sy'n mynd allan ar Chwefror 24ain.

Mae hi bellach yn 9.44pm, ac mae'r Race Horses wedi bod yma ers ryw ddwyawr. Mae'n swnio fel bod y gerddoriaeth ar gyfer y gân gyntaf bron wedi ei sgwennu, ond does na ddim son o gwbl am eiriau eto.

Mae'r dyn sydd am wneud y clawr newydd gyrraedd - Gaz Jones. Mi fydd o'n gwneud collage, felly mae o wedi dod â tua 10 bocs mawr o "cuttings" hefo fo, wedi eu trefnu yn ôl gwahanol liwiau. Difyr

Hwyl am y tro
Gar

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:00 ar 16 Chwefror 2010, Bari Morgan ysgrifennodd:

    Bydd y drym trac ar gael hefyd?

  • 2. Am 22:13 ar 16 Chwefror 2010, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    nai weld be fedra ni ei wneud!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.