Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clipiau sain Race Horses i chi ail-gymysgu!

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 23:55, Dydd Mawrth, 16 Chwefror 2010

Cyfle i chi ymuno yn y Sesiwn Unnos hefyd! Dyma chydig o gynnyrch cynta Race Horses o'r stiwdio heno - be allwch chi greu efo'r rhain? Ni'n gobeithio cyhoeddi llwyth o'ch remicsys chi yma ar y wefan.

Dyma'r ffeiliau sydd ar gael hyd yma, mewn fformat MP3 i chi fewnforio i'ch meddalwedd cerddoriaeth.

Diweddariad: Dyw'r ffeiliau ddim ar gael bellach oherwydd mae'r Sesiwn Unnos yma wedi dod i ben - ond allwch chi glywed y traciau wedi ailgymysgu ar wefan C2 fan hyn.

Nodyn pwysig: gewch chi lawrlwytho'r ffeiliau sain hyn ar gyfer creu ailgymysgiad i Sesiwn Unnos Radio Cymru yn unig. Chewch chi ddim eu hail-dosbarthu na'u defnyddio at unrhyw ddiben arall. Y BBC biau'r hawliau yn y sain drwy'r amser.

Sut i anfon eich traciau wedi ailgymysgu...

Os yn bosib, defnyddiwch wefan fel YouSendIt, TransferBigFiles, SendSpace neu DropSend i drosglwyddo'r ffeil (WAV neu MP3) i c2@bbc.co.uk. Neu gallwch ebostio ffeil yn uniongyrchol i ni ond gofalwch bod maint y neges yn llai na 5MB.

Cofiwch ddweud wrtho ni pwy sydd wedi creu'r ailgymysgiad ac os oes na enw iddi neu unrhyw wybodaeth arall!

Wrth anfon eich trac wedi ailgymysgu ato ni, rydych chi'n trosglwyddo'r perchnogaeth a'r holl hawliau i'r BBC, ac yn gwarantu mai eich gwaith gwreiddiol chi (ar wahân i'r clipiau gwreiddiol) yw'r holl gynnwys neu nad oes unrhyw hawliau 3ydd parti neu hawliau eraill sy'n eich rhwystro rhag drosglwyddo'r gwaith i'r BBC. Ni fydd unrhyw dâl am y gwaith. Rydym yn awgrymu bod pob artist yn cofrestru'r gwaith gyda'r MCPS/PRS er mwyn casglu breindaliadau o unrhyw ddarllediad radio. Bydd gan y BBC yr hawl i gynnwys eich gwaith ar unrhyw un o'n gwasanaethau gan gynnwys ar y radio, y wefan, neu mewn lawrlwythiad megis Pod C2, ond allwn ni ddim gwarantu cynnwys unrhyw drac ar unrhyw un o'r gwasanaethau hyn.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.