Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd am y brig - mewn dwy gamp!

Categorïau:

Hefin Thomas | 14:07, Dydd Mercher, 14 Hydref 2009

Ddim yn aml chi'n cwrdd â rhywun sydd wedi torri record byd mewn unrhyw gamp, felly pan y'ch chi'n cwrdd ag athletwr sydd a record byd mewn dwy gamp chi'n gwybod eich bod mewn cwmni rhywun arbennig iawn! Mae Aled Sion Davies yn gobeithio ennill y fedal aur yng ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain ac yn dal record y byd ar gyfer taflu'r pwysau a'r ddisgen o dan 18 (dim ond 5 metr y tu nôl y record byd y ddisgen ar gyfer bob oedran).

Er taw dim ond 18 oed yw Aled, mae e' ar hyn o bryd yn y 4ydd safle yn y byd o fewn ei gamp ac yn gobeithio y gall esgyn i'r brig ymhen tair mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n anelu at bencampwriaeth y byd yn Seland Newydd flwyddyn nesa gan hyfforddi am 6 awr y dydd yn ogystal a dilyn cwrs gradd BSc Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Athrofa Chwaraeon Caerdydd (UWIC). Mae'n deg i ddweud nad yw Aled di bod fel fyfyriwr nodweddiadol yn ystod wythnos y glas!

Er ei holl lwyddiant, mae gan Aled orwelion ehangach na Llundain 2012 achos mae o'n gobeithio cyrraedd gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro gan gystadlu ymysg y goreuon fel y person cyntaf gydag anabledd i wneud hynny. Ar ôl siarad ag Aled, does gen i ddim amheuaeth fod ganddo'r ymroddiad a'r gallu i wireddu ei freuddwyd. Gobeithio'n fawr y cawn ni'n cyfle i siarad ag ef eto cyn bo hir weld sut mae pethau'n datblygu.

Cyngor Aled i athletwyr ifanc - gweithio'n galed a mwynhau eu camp. Ceir fwy o wybodaeth am gyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru
a hefyd ar wefan Cyngor Chwaraeon Cymru. Mae na glipiau ohono ar wefan BBC Raise Your Game ac ar Y Ras i Lundain ar wefan S4C

Grandewch ar y cyfweliad eto drwy fynd at gwrando eto ar fy rhaglen i ar nos Fawrth y 13eg o Hydref.

Hwyl Hefxxx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.