Wel helo. Ers yr wyl ddiwethaf i fi flogio amdani, dwi wedi bod mewn cwpwl o rai eraill. Mae Latitude yn wyl sy'n digwydd yn Suffolk yn nwyrain Lloegr, a dwi wedi bod i bob un. Eleni eto ro'n i yn dewis y bandiau i chware ar y Lake Stage, lle y gwnaeth Derwyddon dr Gonzo set wych llynedd. Roedd digon o uchafbwyntiau, yn cynnwys Golden Silvers a Casiokids, Colorama a 9bach. Mae albym 9bach allan erbyn hyn, ac yn gymysgfa hyfryd o'r traddodiadol a'r seicadelig. Mae EP newydd Colorama allan ddiwedd mis Awst a mae'n wych. Mae'n dalent a hanner a mae 'Dere Mewn' arni hi.
Nos lun ar fy rhaglen mae Cymdeithas yr Hobos Unig arno gyda sesiwn newydd. Mae'n artist newydd - Emrys yw ei enw a mae'n dipyn o athrylith. Newch chi ddim clywed neb arall fel Cymdeithas yr Hobos Unig. A mae'n ddyn doniol hefyd, felly tiwniwch mewn am ddeg!
Welai chi'n yr Eisteddfod Steddfod falle.
Wythnos arall wedi fflio, a bellach... dim ond 10 diwrnod sydd i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009!! Methu'n glir a disgwyl, a bydd criw C2 yno am yr wythnos gyfan yn darlledu o gefn-llwyfan Maes B, gan ddod a'r gorau o gigs Maes B a gigs Cymdeithas yr Iaith i chi - a lot, lot mwy o hwyl y 'Steddfod... ond mwy am hynny ar C2 dros yr wythnos nesaf 'ma.
Y fideo gafodd sylw yn yr ail-bit (neu 'Gwyliwch y Fideo' fel dwisho ei alw fo - ddim yr enw mwyaf bachog, felly helpwch fi plis!) oedd Chwarter Call - Cana Gan.
Mi ffilmwyd y fideo ar gyfer Uned 5, gyda'r band ifanc o ardal Llangefni yn edrych yn smart iawn mewn siwtiau 'Reservoir Dogs'-aidd. Mi allwch chi wylio'r fideo yma:
Artist 'Gwyliwch y Gofod' yr wythnos yma yw 'Aran Fôn' - gyda'i gan hafaidd, fachog, amserol iawn, 'Carafan'. Gallwch weld manylion tudalen myspace Aran Fôn drwy fynd i adran 'Gwyliwch y Gofod' ar wefan C2.
Reit, dwi'n mynd adra i lanhau fy welis ar gyfer y 'Steddfod!
Hwyl am y tro,
Rob.
Roedd gwyl T In The Park yn un do'n i erioed wedi bod iiddi, a roedd popeth ro'n i wedi clywed amdani yn wir. Mae'r gynulleidfa Albanaidd yn gwybod sut i fwynhau eu hunain! Roedd y naws rywbeth tebyg i wyl Reading a Leeds a dipyn bach hefyd i'r Sioe Amaethyddol! Y math yne o vibe. Lot o fandie da yne, a llwyth o fandiau Albanaidd yn chware gigs i gynulleidfaoedd enfawr. Mae'n hawdd anghofio faint o artistiaid mawr sy'n dod o'r Alban; Franz Ferdinand, Snow Patrol, Calvin Harris, Edwyn Collins, Broken Records, Phantom Band, Young Fathers. Roedden nhw i gyd yne a roedd llawer ohonynt yn wych ar y penwthnos yn ystod yr wyl. Ar ol yfed te yn T, es i lawr i Wakestock yn Abersoch. Roedd y mwd yn eitha gawel ar y dydd Sul, ond dim glaw fel ar gychwyn yr wyl. Weles i set gwych gan Y Promatics o Ddyffryn Nantlle, bach o Cowbois Rhos Botwnnog oedd yn hwyl a Dizze Rascal! Dizze oedd yr uchafbwynt; roedd Bonkers yn.....Boncyrs.
Fel arfer, tua'r adeg yma mis Gorffennaf, mi fydda ni fel criw yn gorffen y paratoadau at Sesiwn Fawr Dolgellau. Pethau fel ffonio bandiau i gael "set-lists", gwneud running orders melltigedig o gymleth, siarad hefo Ywain Myfyr a'r trefnwyr am unrhyw newidiadau, gwneud nodiadau i'r cyflwynwyr - ac wrth gwrs cadw golwg ar y rhagolygon tywydd. Rhaid i mi gyfadde mod i'n hynod drist nad oes na Sesiwn eleni. Hon ydy'r wyl dwi'n fwynhau fwya - ma pawb mor gyfeillgar, mor groesawgar, ac mae gan y trefnwyr wir gariad at y gerddoriaeth. Gobeithio daw hi yn ol yn 2010.
Yn y cyfamser, mae yna ddisgwyl i rai pobol fynd i Ddolgellau beth bynnag!! Ac os ewch chi, mi fydd 'na gig hefo Cowbois Rhos Botwnnog yn Ty Siamas rhwng 1pm a 5pm, ac wedyn Wyrligigs, Cowbois, Bob a'r Ods yn y Clwb Rygbi o 5pm ymlaen. Enw'r digwyddiad ydy... "Does na ddim byd ymlaen ond ma' pawb yn dwad"!!!! Mi ddylwn i nodi fod Cowbois Rhos Botwnnog wedi chwara am ddim llynedd i geisio helpu'r wyl.
Mi ddyla ni hefyd roi "mensh" sydyn i CD newydd Celt, "Cash Is King". CD byw ydy hwn o'i set nhw yn Sesiwn Fawr y llynedd, ac mi fydd yr holl elw yn mynd i helpu'r Sesiwn Fawr.
Braf iawn oedd cael sgwrs efo Heddwyn o'r band 'The Threatmantics' ar C2 heno, a chael peth o'i atgofion o am ffilmio'r fideo gwych ar gyfer y gan 'Wedi Marw'.
Mi gafodd o'i ffilmio bron i dair mlynedd yn ôl i gyd-fynd a rhyddhau y sengl ddybl-A-ochrog (!) Sali Mali / Wedi Marw, ac werth ei wylio - i weld Heddwyn yn socian wedi i fwceidiau o ddwr gael ei luchio drosto, ac i weld aelodau'r band yn cael eu tarro yn eu wynebau gan bysgod go iawn (hynny yw, dim pysgod ffug)!
Newyddion gwych i holl ffans y Threatmantics allan yna, mae nhw am fod yn cychwyn gweithio ar ei hail-albym tua mis Medi, ac mae cryn dipyn o ganeuon Cymraeg am fod ar yr albym newydd yma.
Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma yw Wyn Williams - ewch draw i wefan C2 i gael rhagor o fanylion ac i weld y linc i'w dudalen myspace.
Mae'r haf o wyliau cerddorol yn parhau i fi eleni gyda T in the Park yn yr Alban dros y penwythnos. Heb fod o'r blaen, a fi'n edrych mlaen i weld yr wyl mae pawb yn ei ganmol gymaint. Mae'r gynulleidfa Albanaidd yn enwog am fod ymysg y gorau yn y byd; mae bandiau a DJ's wrth eu boddau yn chware iddynt achos mae nhw'n gwybod sut i gael parti.
Dydd Sul mi fyddai'n DJ'io yng Ngwyl Wakestock yn Abersoch. Mae'n wyl sydd wedi tyfu dipyn ac yn parhau i ddathlu'r chwaraeon o donfyrddio a dod a bandiau enfawr i chwarae yno i gynulleidfa wych. Edrych mlaen i weld Y Promatics, Dizzee Rascal a'r Gallops yn fawr!
Yr wythnos yma, Hywel Pitts oedd artist 'Gwyliwch y Gofod' - sef cyn-brif leisydd y band ifanc, gwych 'Dirty Words'.
Yn ogystal a hynny, mae'r ail-bit newydd yn parhau - sef y slot ychwanegol lle dwi'n son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i'w wylio ar y wê.
Fideo swreal ond gwych i'r gân 'Madrach' gan Derwyddon Dr Gonzo gafodd sylw yr wythnos yma, ac mi ges i sgwrs efo Ifan Dafydd o'r band am ei atgofion o ddiwrnod ffilmio'r fideo ar gyfer 'Bandit' nol yn 2007. Dwi wedi chwerthin gymaint wrth wylio'r fideo, lle mae'r actor Huw Marshall yn actio rhan y prif gymeriad - dyn torri gwallt sydd ddim yn gwneud job rhy dda ohoni - a thrio dyfalu pa un o aelodau'r band yw pwy, o dan eu dillad rhyfedd a'u gwalltiau gwirion!
Mi fydda'i nol ar C2 nos Fawrth nesaf, gyda band neu artist 'Gwyliwch y Gofod' arall, ac mi fydd fideo gwych arall yn cael sylw yn yr 'ail bit newydd'. Yn y cyfamser, mwynhewch y fideo i 'Madrach' - a chofiwch fod Derwyddon Dr Gonzo yn rhyddhau eu halbym gyntaf 'Stonk' ar Orffennaf 27ain, ac yn cloi pethau ym Maes B, Eisteddfod y Bala fis nesa.
Be chi fod i neud pan chi'n gweld rhywun enwog? Fi'n gofyn achos fi newydd weld Brandon Flowers o'r band hynod o boblogaidd The Killers ar y ffordd i'r un tren a fi. Ydech chi fod edrych i ffwrdd, a trio esgus bod chi ddim wir yn becso fod nhw'n enwog a bod chi'n gweld pobl gyda gwynebau cyfarwydd fel nhw bob dydd?
Neu ydech chi fod syllu am dipyn bach, ond ddim gormod nes bod nhw'n cael eu ffricio allan gan y sefyllfa? Ydi deud rwbeth tebyg i 'Wwww, helo, fi'n ffan o'ch cerddoriaeth/ffilm/rhaglen/be bynnag' yn syniad da, neu ydyn nhw'n clywed hynny drwy'r amser? Siwr mae deud rwbeth clyfar a doniol a doeth ydi'r ateb, rhywbeth fyddan nhw'n cofio am fisoedd i ddod, fydd yn neud nhw chwerthin a meddwl 'roedd y person yne nath sbotio fi wir yn berson da!'.
Fyddwch chi'n falch o wbod, yn yr eiliadau nes i glocio Mr Flowers, nes i ddim on edrych am eiliad neu ddwy a troi i syllu ar y llawr. O'n i ddim ishe ffricio fe allan.
Mae rhaid i mi gyfaddef mae Murray-Mania wedi fy nharo. Rydw i wrth fy modd gyda tenis, yn ei wylio fel sach o datws o flaen y teledu am 24 awr. Mae'n hen bryd i Brydeinwr guro Wimbledon, mae yna 73 o flynyddoedd wedi bod ers i Fred Perry ennill, felly come on Andy!
Mae o'n chwarae'n dda, yn gyflym, yn bwerus a llawn sgiliau ar y cwrt. Er mai ef yw'r ail ffefryn i guro'r bencampwriaeth, rwy'n siwr y byddai'n curo Federer yn y ffeinal gyda cefnogaeth y dorf.
Ond, dweud hynny, mae'n rhaid iddo guro Roddick neu Hewitt yn y rownd gyn-derfynol. O safbwynt y merched, rwy'n siwr mai Venus Wiliams sydd am guro. . Gall Serena (ei chwaer) fod yn or-hyderus weithiau, rwyn gobeithio y byddai Venus yn ei rhoid yn ei lle!
Ers bod adref, mi agorais y parc ym Mlaenau Ffestiniog. Cefais dlws o gadair wedi ei wneud o lechen am hybu fy mhentref. Tra oeddwn yno dechreuais y rasus 100m i blant a roeddwn yn beirniadu gystadleuaeth gwisg ffansi. Mae'n waith anodd iawn pan fo mamau y plant i gyd tu ôl i mi. Cefais amser gwych a mae'r parc werth ei weld.
Yfory, fyddai'n mynd i Lundain i chwarae bingo gyda'r Daily Mirror - Peidiwch gofyn! Yna, fyddai ar BBLB gyda George Lamb. Edrych ymlaen yn fawr ac yna mi fyddai'n hedfan i Hng Kong ar fy ngwyliau. Tydi bywyd yn gret!
Doeddwn i ddim yn ffan enfawr o Michael Jackson (er mai Bad oedd yr albym gynta i mi ei brynu erioed), ond byddai'n anodd iawn gwadu ei gyfraniad, felly nos Wener dwytha nes i benderfynnu peidio darlledu'r rhaglen Lisa roedde ni wedi ei recordio yn barod, ac yn hytrach gwneud rhaglen fyw i ddathlu cerddoriaeth Michael Jackson, yn nghwmni 3 cerddor Cymraeg sy'n ffans enfawr - Eilir Pierce, Dewi Foulkes a Dyl Mei.
Mae'r stori am fam Eilir yn rhwygo ei bosteri Michael Jackson yn arbennig o ddoniol, ynglyn a honiadau Dyl Mei fod Jackson wedi "prynu" y moonwalk gan hogyn bach yn Brazil
Helo bawb
Am resymau hir-wyntog a chymleth, mae na newid i amserlen C2 yn yr wythnos nesa. Felly, os da chi am glywed hynt a helynt Huw Stephens yn Glastonbury, caneuon newydd Llwybr Llaethog, neu gyfweliad hefo'r SFA, gwnewch nodyn yn eich dyddiadur!
Nos Iau Gorffennaf 2 - Huw Stephens yn Glastonbury
Nos Wener Gorffennaf 3 - Huw Stephens yn Glastonbury
Nos Lun Gorffennaf 6 - Lisa Gwilym yn cyflwyno tracia newydd gan Llwybr Llaethog
Nos Fawrth Gorffennaf 7 - Lisa Gwilym yn holi Daf Ieuan o'r SFA am eu cynlluniau dros yr haf.
Ac yn ol i'r drefn arferol ar ol hynny!
Diolch
Gar
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.