Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Golwg 360

Categorïau:

Criw C2 | 19:41, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Mae gwefan newydd Golwg wedi lansio heddiw, ac mae na adran "pop". Mi oeddwn i mewn cyfarfod Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig yn ddiweddar, ac mi oedd Barry Thomas yr is-olygydd (sori os dwi di cael dy deitl di'n anghywir Barry) yn son am ei gynlluniau i greu is-wefanau i fandiau Cymraeg fel rhan o'r prosiect - lle i fandiau gael hysbysebu gigs, a gwerthu CDs. Felly os da chi mewn band, ac hefo diddordeb - ebostiwch nhw

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:13 ar 16 Mai 2009, D. Enw ysgrifennodd:

    pam na rowch chi'r ddolen yn sych i'r dudalen Gymraeg yn hytrach na Saesneg?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 09:10 ar 18 Mai 2009, Criw C2 Author Profile Page ysgrifennodd:

    bore da!
    diolch am y sylw. Fe wnes i drio rhoi cyfeiriad i safle we Gymraeg y Sefydliad, ond bob tro ro'n i'n mynd i'r safle Gymraeg, yr un oedd y cyfeiriad gwe. Fedri di awgrymu cyfeiriad i mi ei roi yn ei le?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 10:40 ar 18 Mai 2009, Barry ysgrifennodd:


    diolch am y sylw.
    Yn bersonol fydda i'n gwneud mwy efo'r dudalen newydd sgyno ni yn y cylchgrawn Golwg - Y Babell Roc - nag efo'r wefan.
    Ond fel ti'n deud, mi fydd cyfle i fandiau greu tudalennau ar y wefan newydd - Golwg360 - a lincs i'w caneuon ar y we, cyfle i brynu albyms ayb.

    Gobeithio fydd o'n denu mwy i wrando ar fiwsig Cymraeg ar C2 ac mae'n gigiau byw.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 08:55 ar 19 Mai 2009, Rhys ysgrifennodd:

    Mwy o ddylunio gwefannau gwael!

    Tria'r canlynol fel dolen:
    http://www.welshmusicfoundation.com/?language=welsh&page=/

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 10:07 ar 19 Mai 2009, Criw C2 Author Profile Page ysgrifennodd:

    mi ddyle'r linc cywir fod yna rwan - diolch am y cymorth!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 16:00 ar 21 Mai 2009, Breian ysgrifennodd:

    Pam fod y BBC yn rhoi cymaint o sylw i Golwg360? Mae'r safle yn warthus - y syniad yn dda, ond mae'r dechnoleg a'r safle ei hun yn uffernol!

    Mae'r ffont yn amrywio ac yn horrible, ac mae adrannau o'r safle yn diflanu fel mae nhw eisiau.

    Cymaint o addewid, methu delifro, a lot gormod o ffys o safle gwael.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.