Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod 2009

Glyn Wise Glyn Wise | 10:43, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Mae gen i deimladau cymysg am Eisteddfod yr Urdd flwyddyn yma. Ei leoliad sy'n fy mhoeni fwy na dim. Rwyf wedi arfer cael yr Eisteddfod mewn cae mwydlyd yng nghefn gwlad, ond mae'r ffaith ei fod yn y ddinas, yn amgylchynnu canolfan y mileniwm, yn gwneud i'r wyl fod yn wahanol.
Ar y llaw arall, mae'r ffaith fod y cyatadleuwyr yn perfformio ar lwyfan y theatr gora' yng Nghymru yn arbennig.

Roeddwn yno ddydd Mawrth er mwyn hybu ymarfer corff ac i reidio beic gyda helmed. Cefais hwyl yn adran y Cynulliad yn dawnsio gyda 'Gary y crocodeil'. Haha! Roedd o'n teimlo fel bod nôl yng ngwersyll Llangrannog yn dawnsio i Hei Mr.Urdd. Gwych! Mae llawer o atgofion yn dod nol i mi am yr Eisteddfod. Rwy'n cofio straen y cystadlu, yr athrawon difynadd ar mamau oedd yn gwylltio pan oedd eu plentyn yn dod yn ail yn lle cyntaf.
Llwyfan yn Eisteddfod Sir oedd y pella; yr es (ac roedd hynny oherwydd fy mod i mewn deuawd, gyda partner gyda llais arbennig.) O ie, mae hwyl Eisteddfod yr Urdd yn ôl!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 07:57 ar 29 Mai 2009, Dewi Ogwen ysgrifennodd:

    Dwi'n cytuno gyda ti. Dwi di bod o amgylch y maes tair gwaith ac wedi mwynhau'r cystadlu a'r gweithgareddau. Ond fel ti dydw i ddim yn credu mae'r Bae yw'r lle delfrydol i chynnal Eisteddfod.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.