Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Adfywiad pop?

Categorïau:

Criw C2 | 14:25, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Mae hi wedi bod yn eitha tawel yn ddiweddar o ran caneuon pop da. Wrth hynny, dwi ddim yn golygu petha fel TNT, Pheena, Rhydian ayyb, ond yn hytrach caneuon bachog gan artistiaid poblogaidd, eang eu apel. Roedd Frizbee yn y categori yma, Sibrydion falla, Gwibdaith? Anweledig?

Mae'n braf gweld yn y misoedd nesa fod na lot fawr o gerddoriaeth pop da ar y ffordd. I ddechra, album newydd Al Lewis. Dwi wedi ei glywed, ac mae'n esiampl gwych o'r math yma o gerddoriaeth pop. Mae'n cymharu'n dda iawn hefo Jack Johnson, Ryan Adams o ran swn cynhyrchu a caneuon 'catchy'. Dwi'n eitha sicr y byddwch chi'n clywed y caneuon ar Radio Cymru yn ystod y dydd ac C2 fin nos!!

Fflur Dafydd sy nesa - hefo sengl llawn gitars "jangly" a melodiau cofiadwy, ac wedyn fe ddaw albym Dan Lloyd (heb Mr Pinc)sy'n siwr o fod yn llawn o ganeuon pop da. A 'chydig bach o newyddion i chi - mae gen i CD o ganeuon o sesiwn newydd Ceri Cunnington, prif leisydd Anweledig, yn nror top fy nesg yn barod i'w chwara mewn cwpl o wythnosau...

Mae hefyd rhaid son am albym Clinigol, Melys, sy'n fath gwahanol o bop, ond yn ddiddorol iawn. Mae'n albym electro-pop hefo gwesteion fel Heather Jones, Cofi Bach, Nia Medi, DJ Jaffa a Margaret Williams yn cyfrannu.

I glywed mwy am yr adfywiad pop, gwrandewch ar raglen Lisa nos fory i glywed sesiwn Al Lewis, a nos Wener i gael awr yng nghwmni Clinigol. Yn y mis nesa, bydd sesiynau gan Dan Lloyd, Ceri Cunnington, a Fflur Dafydd

ps cyn i chi gwyno, dwi yn cofio fod Huw M, Mr Huw, a'r Ods i gyd yn 'sgwennu caneuon pop gwych, ond ddim eto cweit hefo apel mor eang a rhai o'r grwpiau fel Frizbee? Nai adael i chi drafod hynny...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:29 ar 11 Mai 2009, Magi ysgrifennodd:

    Hir oes i gerddoriaeth bop!! Gwych gwych gwych!

    (hmmmm... chi'n cael y teimlad bo' fi'n hoffi cerddoriaeth bop??)

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.