Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

"Gig of two halves"

Categorïau:

Gareth Iwan | 14:57, Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009

Mae na hen ystrydeb pel-droed fod pob gem yn "game of two halves". Wel, dyna ges i nos Iau yn y Greeks - gig mewn dwy ran. Nes i gyrraedd am 7.30pm mewn amser y weld y Creision Hud. Ddaru nhw ddechrau hefo 30 eiliad o effeithiau sain Furry-aidd nes i rywbeth chwyth yn amp i gitarydd, a bu rhaid disgwyl am ryw 10 munud cyn ail-ddechrau. Roedd hi werth disgwyl - ma nhw'n fand byw da iawn. Caneuon rock 'catchy', hefo mwy o'r cyffyrddiadau SFA-aidd.

Yr Ods ddaeth wedyn, a doeddwn i erioed wedi eu gweld nhw'n fyw o'r blaen. Ma ganddyn nhw swn hollol unigryw - ac mi oeddwn i wedi synnu faint o'r set ro'n i'n ei adnabod. Mae hynny'n dangos faint ma nhw wedi recordio i feddwl eu bod nhw'n fand eitha ifanc, ond hefyd yn dangos faint ma nhw wedi cael eu chwara yma ar C2.

Roedd hi wedyn yn "hanner amser" - yn fy achos i, amser i fynd nol i stiwdios Radio Cymru yn Bryn Meirion, Bangor i gynhyrchu rhaglen Lisa Gwilym. Felly, yn anffodus, nes i fethu set Eitha Tal Ffranco a Cowbois Rhos Botwnnog. OND mi oedd Gruff o Eitha Tal Ffranco wedi gyrru caneuon newydd sbon yn exclusive i Lisa o'r albym newydd "Medina" felly ges i wrando ar rheini! Gewch chi wrando eto yn fama. Mae'n debyg hefyd fod Cowbois wrthi'n recordio ail albym...

Nes i gyrraedd yn ol i'r Greeks mewn pryd i glywed set Sibrydion. Ro'n i wedi gweld Sibrydion yn y Ring, Llanfrothen 'chydig wythnosa yn ol, ac mi oedde nhw'n gret. Dwi'n siwr eu bod nhw'n wych nos Iau hefyd, ond mi oedd na gymaint o griw o'u cwmpas nhw, a sain y Greeks yn eitha od yn y cefn, felly fedra i ddim wir rhoi fy marn yn gwbl sicr. Ond dwi erioed wedi eu gweld nhw'n chwarae'n wael...

Son am gigs - ewch i fama i wrando ar gig wych Jyncadelic Gai Toms gafodd ei recordio yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Reit, nol i'r gwaith. Yr wythnos yma bydd gan Lisa dracia newydd Stilletoes nos Iau, a mix Acid Casuals nos Wener

Cofion
Gar

ps diolch i Gwion am drefnu'r gig yn y Greeks

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:23 ar 15 Ebrill 2009, Ger ysgrifennodd:

    Gwych o gig - a 'run peth i mi, bron - gollish i ran fwya o set Cowbois Rhos yn trio cyradd y bar!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.