Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sweet Baboo, Lleuwen a Rhiannon Giddens

Categorïau:

Gareth Iwan | 09:22, Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2008

Haia
Ymddhieuriadau fod na brinder blogs gen i ar hyn o bryd - mae hi'n wallgof o brysur. Mae gen Lisa cwpl o sesiynau difyr iawn yr wythnos yma - nos Iau mae Sweet Baboo yn recordio ei sesiwn Gymraeg gyntaf (mae o wedi gwneud cwpl o ganeuon i Bandit yn y gorffennol) a nos Wener mae ganddom ni sesiwn Nadoligaidd gan Lleuwen. Dwi hefyd yn GOBEITHIO recordio can Gymraeg hefo Rhiannon Giddens - mae hi'n gwneud fersiwn eitha arbennig o 'Ar Hyd Y Nos'.

Dwi hefyd am geisio rhoi ambell restr o gerddoriaeth Lisa i fyny - rhag ofn bod gan wrandawyr C2 ddiddordeb, ond hefyd i drio denu mwy o bobol sydd ella'n darllen y blog yma ar y blogiadur neu rywle arall!!!! Felly dyma drefn nos Iau 04/12/08:

1 Yr Ods - Rhywle I Ngwallt Gael Tyfu'n Wyn
*2 Spencer McGarry Season - Paler Shade Of Wit
*3 Plant Duw - Dihiryn y Gwanwyn
4 Diwygiad - Petha Bach
*5 Gwilym Morus - Awen Boeth
*6 Jakokoyak - Look Away Now
*7 Alun Tan Lan - Nadolig Llawen
*8 HuwMM - Seddi Gwag
*9 Sibrydion - Femme Mental
*10 Sibrydion - Reprise
*11 CPJ - Nadolig Llawen (Pob Un Wan Jac)
*12 Yucatan - Y Crewr
*13 Beti Galws - Un Geiryn Bach


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:28 ar 9 Rhagfyr 2008, Rhys ysgrifennodd:

    Syniad ardderchog Gareth i osod rhestrau caneuon yma, achos fel darllenwr y Blogiadur - ond gwrandawr anghyson ofnadwy o C2, mae gweld y math o beth fydd ymlaen yn gwneud i mi fod eisiau tiwnio i mewn. Mae'n wych o beth hefyd bod pobl yn dod i ddeall potensial a gallu'r Blogiadur i gyrraedd pobl nad sydd efallai'n ddarllenwyr y Blog C2 ei hun.

    Un tip (yn anwedig gan dy fod yn deall sut mae gosod dolenni o fewn cofnod blog), gan fod gwefan C2 moe gynhwysfawr, byddai'n werth rhoi dolen at dudalen Lisa ei hun, gan nad pawb efallai sy'n gwybod pwy yw hi a pha foth o beth yw ei sioe.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 09:45 ar 10 Rhagfyr 2008, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    gret, siwr o wneud. dwi'n eitha newydd i flogio felly gwerthfawrogi tips bach fel'na

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.