Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'n bwrw glaw, so dal fy llaw... la di la di la

Categorïau:

Magi Dodd | 14:24, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

P'nawn da o iglwww c2/mosgito/ffeil ar faes y steddfod,

Fel ellwch chi ddyfalu o deitl fy mlog - mae'n bwrw glaw. Yn sobor iawn. Ond mae'n bell o fod yn bnawn anghynes ar y maes. Ma rhywbeth am y ffaith bo hi'n bwrw glaw yn y steddfod, yn neud i bobol fod yn fwy parod i siarad â'i gilydd ("Ooo - ma'r tywydd 'ma'n ofnadw nagyw e?"), yn fwy positif ("Mae'n mynd i fod yn braf ddiwedd yr wythnos. Boiling!"), ac yn fwy swnllyd! Wir! Ma lot mwy o swn ar y maes pan mae'n bwrw glaw. ("aaahhh - fi newydd gamu mewn pwll o ddwr!")

Ond yr hyn dwi'n trio gyfleu yw does dim ots sut ma'r tywydd - ma wastad rhywbeth i'w neud a rhywun i'w weld ar y maes.

A chofiwch ma be ma pobol yn wisgo yn y glaw yn ddiddorol iawn. Dyma pwy fi di gweld - a be ma nhw di gwisgo rhwng p'nawn ddoe a heddi.

  • Daf Du (trowsus combat brown gole a chrys glas gole)
  • Hywel Gwynfryn (crys llewys byr a throwsus)
  • Huw Evans (blazer glas tywyll gyda bathodynne, jins sgini tywyll ac esgidiau gwyn)
  • Guto Brychan, sy'n trefnu gigs Maes B (crys t Gwyl Swn a jins)
  • Jeni Lyn (fest gwyn, cardigan las a jins neis iawn)
  • Swci Boscawen (crys a leggins du - a'i cholur a'i gwallt yn edrych yn ffantastic fel arfer)
  • Osi Sibrydion (crys, jins a chôt ledr)
  • Mei Sibrydion (crys, jins a top adidas)
  • Huw Stephens (crys glas a gwyn, jins a daps adidas)

Felly, dyna sut ma'r ffasiwn yn edrych ar y maes - ac ym maes B hyd yma. Jins a daps adidas yw'r pethe mwya poblogaidd hyd yma. Ond gall bobeth newid erbyn diwedd yr wythnos.

Fi? Fi'n gwisgo siorts, bwts a chrys t Steddfod Abergwaun 1986. Y crys t yma oedd hoff un Grav arnai (mae'n goch - fel y sgarlets!) a chan gofio am y cyngerdd sy'n cael ei gynnal heno i gofio'r gwr bonheddig o Fynydd y Garreg - dwi'n gwisgo'r crys â blachder heddi.

xxx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.