Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sengl newydd Gwyneth Glyn a Cowbois

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:47, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Ma sengl newydd Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn wedi bod 'chydig bach fel Sion Corn. Does neb wir yn siwr os dio'n bodoli, ond mi fysa'n neis tasa fo yn wir. Yn achos Cowbois a Gwyneth, mae dolig wedi cyrraedd go iawn.

Gwyneth a'r Cowbois

Gwyneth a'r Cowbois ar eu ffordd i Rodeo ym Mhen Llŷn yn y fan. Falle.

Mae gen i gopi o'r sengl, ac ma hi'n hollol wych. Tair cân country ar ei ora. Fersiwn newydd o gân draddodiadol ydy'r brif gân - Paid A Deud, wedi ei recordio yn steil unigryw Coboiws, ond gyda llais hyfryd Gwyneth a pedal-steel anhygoel gan Euron Jones hefyd. Wedyn ma na fersiwn hwyliog a chyflym o Mhen i'n Llawn Ohonat Ti, yn wreiddiol oddiar Tonau, hefo sŵn pedal steel Jos yn distortio'n wych yn y cefndir, a gitars y Cowbois yn gwthio'r rhythm ymlaen. A wedyn i gloi ma na fersiwn hiraethus o Musus Glaw.

Ma gan canu gwlad enw eitha dodgy yma yng Ngymru, ond mae'n fath o gerddoriaeth dwi wrth fy modd hefo fo ar ei ora, a gobeithio y gwnaiff y sengl yma newid meddylia rhai pobl am y math yma o gerddoriaeth.

Bydd Lisa'n chwarae'r caneuon nos Iau am 10pm, ac mi fydd Cowbois a Gwyneth hefo Lisa nos Wener am 10pm.

Ma Sion Corn wedi cyrraedd, ac mae o'n gwisgo crys check.

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.