Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwefr The Peth

Categorïau:

Lisa Gwilym | 12:52, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Reit, da chi'n barod i i fynd am dro drwy atgofion Lisa Gwilym o'i noson yn neuadd Hercules, Portmeirion nos Fercher?

Dychmygwch neuadd eitha bach hefo ryw 200 o bobol fel sardines y tu mewn. Deg cerddor o'n blaena ni - dim ar lwyfan, just o'n blaena ni. Pob un yn gwisgo 'shades' ac yn edrych yn arbennig o cwl. Felly o'r chwith i'r dde, Guto Pryce o'r Super Furries, Osian o'r Sibrydion ar yr allweddella, Mei ei frawd ar y gitar, merch wedyn, ac wyddo chi be? dwi'n ymddiheuro, dwi ddim yn cofio ei enw hi ond mi oedd ganddi lais anhygoel. Wedyn Aaran Ahmun ar y drymie ac o'i flaen o, Rhys Ifans, oedd yn frontman charismatic tu hwnt. Daf Ieuan ar y gitar ac yn canu, Kris Jenkins yn y cefn yn chwarae hefo effeithiau sain. Scouse Mick a Dic Ben wedyn ar y tambourine, shakers a rhywbeth oedd yn edrych fel "My First Piano" gan Fisher Price, a dyne fo dwi'n meddwl. O, ac fe ddaeth Les Morrison ymlaen ar y diwedd i chwarae banjo. Felly dyne'r olygfa.

O ran sain wedyn, dwi di sôn am lais peraidd y ferch, oedd Rhys yn grêt, basslines cryf, lot o sŵn gitars, a harmonia da ar adega. O'n i'n poeni braidd ar y dechre gan fod na gymaint ohonyn nhw, ond i feddwl faint o aelode oedd na, ges i fy siomi ar yr ochr ore, ac mi oedd yna wefr yn perthyn i'r noson. Nes i wir joio! Mynnwch Peth o'r Peth!

Lis
x

PS os da chi isho clywed os ydy Dyl Mei yn cytuno hefo fi, gwrandewch ar ei adolygiad o'r gig nos Lun am 11pm efo Daf Du.


Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.