Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Huw ymhobman

Categorïau:

Huw Stephens | 17:28, Dydd Gwener, 30 Mai 2008

Heb flogio yma ers meityn. Meityn! Gair da. Yn ddiweddar ma seshyne newydd sbon wedi bod ar fy rhaglen:

  • The Gentle Good. Mae ei albym newydd ar label Gwymon yn swnio'n arbennig o'r copi cynnar sydd gennai.
  • Di Pravinho. Neis siarad gyda nhw, a chlywed y seshwn newydd sbon - fyddai'n chwarae hwn ar y sioe nos Lun.

Ar raglen nos Fawrth nesa fyddai'n siarad gyda Threatmantics a Georgia Ruth Williams sydd drwodd i'r llwyfan Introducing yn Glastonbury, gyda lot o fandiau erill yn chware hefyd, yn cynnwys Picture Books in Winter, ffefrynnau Bethan Elfyn ar Radio 1 yng Nghymru.

Fi di bod yn teithio dipyn yn ddiweddar. Ro'n i yn Kent i Benwythnos Mawr Radio 1, yn Brighton ar gyfer gŵyl Great Escape, ac yn ddiweddar es i i DJo yn York. Lot o hwyl, lot o gerddoriaeth.

Fi di bod yn mwynhau rhaglenni Rhys Mwyn yn ddiweddar fan hyn ar C2. Os chi'n ffan a heb ddarllen ei hunangofiant, mae werth gwneud.

Sws mawr,
Huw

YPDET: mae sesiwn Di Pravinho ar wefan C2 nawr!

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.