Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwobrau'r Ffatri Bop 2007

Categorïau:

Lisa Gwilym | 17:05, Dydd Gwener, 30 Tachwedd 2007

Noson fawr, noson dda, noson hwyr!

Mae'r gwobre yn ei seithfed flwyddyn, ac eleni, o'dd y seremoni yn cael ei chynnal yn y Neuadd Fawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Digon o win, fodca, a chwrw ar y byrdde, ond o'n i gefn llwyfan efo Mr Glyn Wise, yn siarad efo hwn a'r llall!

Mi gafon ni'r fraint o gael mynd ar y llwyfan hefyd, efo Alex Zane (sy'n hyfryd gyda llaw!) i gyflwyno gwobr C2 i'r band Cymraeg gore. Categori poeth iawn, a 4 o'n hoff grwpie i ar y rhestr fer - Euros Childs, Radio Luxembourg, Genod Droog, a'r Sibrydion. A'r Sibrydion nath ennill! Mor falch drosta nhw, ond doedd Daf druan, y drymiwr, ddim yn gwbod be i ddeud pan ddoth o ar y llwyfan i dderbyn y wobr! Er, wedi meddwl, di drymars byth yn deud lot! Ond eniwe, yn ddiddorol iawn, mi oedd Mei Gwynedd yn bresennol neithiwr, ond doedd na'm golwg ohona fo ar y foment dyngedfenol, achos o'dd o tu allan yn cael ffag! Gath Glyn a fi air efo'r ddau ohonyn nhw wedyn, ac oedde nhw'n amlwg yn hapus iawn.

Hef, Daf a Mei yn dathlu
Hefin Mattoidz yn helpu Daf a Mei o Sibrydion i ddathlu eu gwobr!

O ran perfformadiadau byw y noson, gafon ni un gan gan Funeral For a Friend. Nes i fethu nhw'n anffodus, ond yn ôl y sôn, doedde nhw'm yn dda iawn, ac yn sicr ddim yn haeddu ennill categori band byw y flwyddyn ar y perfformiad yne. Trafodwch!

O 'na ferch ifanc yne yn chware'r delyn - Georgia Ruth Williams - o Aberystwyth yn wreiddiol, ac yn astudio'n Caergrawnt ar y funud. Hogan lyfli, sy'n chware stwff gwerin eitha traddodiadol a diddorol, ac yn canu 'fyd. Di ddim 'di recordio dim byd Cymraeg eto, ond yn gobeithio gwneud yn y dyfodol agos, a dwi 'di son wrthi am sesiwn acwstic. Wedyn i gloi'r noson, y grwp boncyrs gwych o Lerpwl, y Wombats! Mond un gân yn anffodus, "Lets dance to Joy Division", ond oedde nhw'n bril a llawn egni.

Felly, y pethe pwysig, y canlyniade. Wel da chi'n gwbod bod y Sibrydion 'di ennill gwobr C2, band Cymraeg y flwyddyn, a bod Funeral For a Friend di ennill band byw y flwyddyn. Y Manics nath ennill band y flwyddyn, Kids in Glass Houses - band newydd y flwyddyn, a'r Automatic nath ennill band sy di llwyddo'n ryngwladol.

Prif wobr y noson, cyfraniad oes i gerddoriaeth yma yng Nghymru, yn mynd i Mike Peters. Dyn annwyl, diymhongar, a normal iawn! A nath o ddeud wrthai wedyn bod o wrth ei fodd efo'r wobr (er bod o 'di torri!), yn enwedig o ystyried 'chydig o flynyddoedd nôl, doedd o'm yn meddwl bod o'n mynd i fyw lot hirach. Felly oedd hi'n noson arbennig iawn idda fo'n amlwg. Ac o leia odd o'n haeddu ei wobr! Sori, ond dwi jyst braidd yn siomedig bod albym y flwyddyn 'di mynd i'r Stereophonics! Esboniad plis? Sut nath "Pull the Pin" guro "Hey Venus" gan y Super Furry Animals?

Erbyn tua deg o'r gloch, o'dd y seremoni 'di dod i ben, o'dd Glyn a fi 'di gorffen ein gwaith gefn llwyfan, ac o'dd y ddau ohonom angen diod! Felly, mynd i chwilio am bawb arall, a dechre cymdeithasu! A fel dwi 'di deud yn barod, o'dd hi'n noson fawr, noson dda, a noson hwyr!

Reit, dwi ffwrdd i'n ngwely am cwpwl o orie cyn rhaglen heno, felly welai chi am ddeg! Hwyl!

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.