Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwi'n caru Girls Aloud!

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 12:00, Dydd Llun, 23 Gorffennaf 2007

'Dwi 'di cael wythnos brysur iawn wythnos yma, dwi wedi bod yn gweithio lot a hefyd dwi wedi bod allan bron bob nos! Nos Fawrth mi aeth criw C2 a Daf Du allan ar ei stag, mi gafon ni noson mega cool, lot fawr iawn o yfed, a hyd yn oed mwy o ganu a dawnsio. Mae 'na luniau i fyny ar safle gwe C2 (dim ond y rhai gweddus yn anffodus!)

Dydd Mercher, ar ol prin 4 awr o gwsg, mi oedd yn rhaid i fi ddal y tren cyntaf i Fryste i ffilmio ar gyfer BBLB. Fy nasg yr wythnos yma oedd ffeindio cariad i Brian. Ges i hwyl yn gweithio, ond mi oedd hi'n braf cael mynd adre ar ol cinio am nap bach cyn mynd mewn i stiwdios C2!

Bore dydd Gwener, es i fyny i Lerpwl i ffilmio ar leoliad ar set Hollyoaks. Mae'n rhaid i fi gyfadde' nad ydwi'n gwylio'r rhaglen, felly mi oedd rhaid i mi smalio fy mod i. Roedd yna lwyth o ferched del yno, a mi oeddwn i wrth fy modd. Nol wedyn i Blaenau gyda'r nos i weld Nicky yn cael ei evictio o dy'r Brawd Mawr.

Mi oedd hi'n braf iawn cael darlledu Swn Sadwrn o Sesiwn Fawr Dolgellau, a mi oedd hi'n gret fod y pump ohono ni wyneb yn wyneb am change! Er gwaetha'r mwd gefn llwyfan, nes i rili mwynhau! Syth ar ol y rhaglen mi oedd yn rhaid i ni deithio'n nol i Gaerdydd, bach yn gutted bo fi heb gael y cyfle i weld Radio Lux a Genod Droog yn perfformio'n fyw.

Dydd Sadwrn, yn fy siorts coch, es i draw i ffilmio yn Western Super Mare ar gyfer rhaglen i T4, mi oedd rhaid i fi gymeryd rhan mewn rhywbeth tebyg i 'It's a Knockout!' Tra o ni yna ges i gwrdd a Sophie Ellis Bextor, Akon a hefyd cael cusan gan genod Girls Aloud.

Gyda'r nos wedyn, mi es i barti nos priodas Daf Du a Rhiannydd. Ges i amser gret, lot o ddawnsio. Bws wedyn yn ol o Abertawe i Gaerdydd.

Gobeithio y cai wythnos ychydig yn fwy tawel wythnos nesa 'ma.

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.