Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Os ti iso gneud graffiti.. gna graffiti Cymraeg...

Categorïau:

Magi Dodd | 12:00, Dydd Llun, 11 Mehefin 2007

O'r diwedd dwi wedi dadflino ers y Steddfod. Roedd hi'n wythnos hir, blinedig - ac i fod yn onest, anodd. Rhyngo chi, fi a'r pedair wal, dwi'n falch fod yr wythnos ar ben. Ond bellach ma'r rhaglen Sadwrn newydd wedi dechrau ar Radio Cymru - Swn Sadwrn. Ar gyfer y rhaglen gynta, ath Glyn â fi adre i Flaenau Ffestiniog i ddathlu 10 mlynedd o Wyl Car Gwyllt!

Dreuliais i ryw wythnos ym Mlaenau Ffestiniog bedair blynedd yn ôl fel rhan o Strategaeth Gymunedol y BBC yno, ond nes i anghofio pa mor wych yw Blaenau a'i phobl!

Roedd y Queens dan ei sang pan gyraheddes i a Sian ar nos Wener. Anweledig, Vates ac Estella yn chware gig enfawr lawr llawr yna - reit o dan fy stafell wely! Dreuliais i a Siân ryw awr yn eistedd yn y bar yn syllu ar bawb o'n cwympas. Ma pobol Blaenau yn atgoffa fi lot o bobol y cymoedd; nuts, gwahanol, croesawgar, doniol, halen y ddaear, siarad da phawb, caredig - ac yn fy marn i, yn asgwrn cefn y wlad. Falle dyna pam dwi a Glyn yn dod mlaen mor dda - dwi o'r cymoedd, ma fe o Flaenau, ac er bod y ddau le yn bell yn ddearyddol, yn emosiynol ryn ni'n agos iawn.

Un peth o fi ddim yn hoffi am Flaenau oedd y midgies! Roedden nhw ym mhob man! Dreuliais i hanner y noson yn crafu ac yn cosi ac yn swatio - nid dan y duvet - ond y blincin midgies! Ma rhaid bo un o nhw 'di cnoi fi a twiggo bo gwaed newydd, ffresh wedi dod i'r dre a 'di dweud wrth mets e i gyd i ddod draw am wledd!

Roedd y dydd Sadwrn ei hun yn wych. Gethon ni groeso cynnes iawn gan bawb ac roedd yr awyrgylch yn wych! Nes i, Sian, Robin ac Ems gael ein harwain o gwmpas y dre gyda'r tywysydd profiadol Glyn Wise a chael gweld y golygfeydd gore fel y parc, y Cwm a'r bont lle roedd Glyn yn treulio ei nosweithiau yn yfed cwrw!

Aeth y rhaglen hefyd yn dda, ond nes i dorri'r peiriant oedd yn caniatau i chi glywed ni ar y radio! Wpsis! Ond ar wahan i fi'n torri peiriannau drud y BBC - aeth popeth yn grêt! Roedd plant Blaenau yn hyfryd a nethon nhw helpu ni i ennill yr her nath Steve a Jeni roi i ni. Diolch bois (neu falle ddylwn ni ddweud - diolch hogia!)

Yn syth rol y rhaglen nethon ni deithio nol lawr i Gaerdydd. Roedd fy ffrind Louise yn dathlu ei phenblwydd! Er fy mod wedi blino, nes i roi fy ffrog ore arno, byngo bach o slap ar fy wyneb ac es i mas i bartio yn un o westai mwya trendi a posh Caerdydd. A chi'n gwybod beth? Roedd rhan fach ohonai'n gweld ise midgies Blaenau!

Magi

xx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.