Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Fy hoff bobol

Categorïau:

Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 19 Mai 2007

Nath unrhywun weld y rhaglen deledu echrydus yna noson o'blaen ar ITV? Greatest Britons neu rwbeth? Roedd e mor ofnadwy doeddwn i a fy ffrind Emma ddim yn gallu stopio gwylio hi. Roedd hi fel seremoni wobrwyo i Brydeinwyr gwych. Ar bapur, syniad da fi'n siwr. Ar y sgrin? Of-blincin-nadwy.

Roedd un bit o'r rhaglen lle odd rhaid i chi bleidleisio am y Prydeinwr mwya anhygoel sy dal yn fyw. Dyma'r bobol oedd y rhestr fer:

  • Y Frenhines
  • Maggie Thatcher
  • Julie Andrews
  • Robbie Williams
  • Paul McCartney

Robbie Williams!? Robbie Williams?! Roedd e chydig bach fel X-Factor. Roedd rhaid i chi decstio mewn drwy roi "Queen" neu "Maggie" neu "Robbie" a.y.b. Y Frenhines ennillodd. Hmmm... nai ddim ymateb i'r penderfyniad yna rili, ond nes i ddechrau meddwl am y bobol sy, yn fy marn i, yn haeddi cael eu galw yn:

Bobol Ffab Magi Dodd (sy dal yn fyw)

  • Teulu fi i gyd
  • Ffrindiau fi i gyd
  • Alun Jones
  • Lilly Allen
  • Tyra Banks
  • Doctoriaid a nyrsys y byd
  • Pobol sy'n mynd i wledydd peryglus i helpu pobol eraill, fel pobol y Groes Goch ac Achub y Plant
  • Alan Sugar - "You're Fired!"
  • Geraint Jarman
  • Cameron Diaz
  • Charlotte Church
  • Stevie Wonder
  • George Michael
  • Ian Hyland
  • Pat Butcher
  • Charlotte Gainsbrough
  • Frank Butcher
  • Miranda off Sex and The City
  • Sarah Jessica Parker
  • Andrew Lloyd Webber
  • Y boi gyda gwallt melyn ar Any Dream Will Do... Chi'n gwybod - Yr Albanwr sy wastad yn crio - Craig ife?
  • Drew Barrymore
  • Mr Peacocks a Mr Primark
  • Jennifer Aniston
  • Gwyddonwyr sy'n gweithio tuag at wella afiechydon fel canser
  • Dynion bins sy'n clanhau Tudor Road yn Grangetown
  • Tony Merolla

Tra

M xxx

O.N - Fi di gweld pâr sgidie anhygoel ar y we. Fydde nhw'n berffaith i briodas fy chwaer. Ond ma nhw'n £280. Hmmm.. Oes modd cyfiawnhau gwario gymaint ar bâr o sgidiau? O gosh - fi ddim yn gwbod.. ma nhw'n anhygoel. Ond ma nhw mor ddrud! Ebostiwch C2 gyda'ch barn chi plis!

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.