Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cân actol a Pizza!

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 12:00, Dydd Iau, 31 Mai 2007

Dwi wedi blino braidd heddiw - mae wedi bod yn wythnos flinedig! Ar ol dod nol o'r Steddfod p'nawn ddoe o'n i jyst isho mynd i gysgu - ond roedd gen i raglen i'w wneud hefo Daf am 8. Ges i swper yn y cantin a ron i'n teimlo'n lot gwell wedyn! Nes i aros yn stiwdio C2 ar ol y rhaglen i wylio noson gyntaf Big Brother 8 - allai'm credu fod un hogyn lwcus am gael mynd i mewn i'r ty ddydd Gwener at 11 o ferched!

Nath Sian fy mhigo i, Magi a Robin i fyny bore heddiw i fynd i'r Steddfod eto. Ar ôl cyrraedd, es i o gwmpas y Maes i drio recordio cyfweliadau hefo rhagor o enwegion Cymru - ond wnes i ddim cael hyd i neb! Roedd gen i rhyw hanner awr yn rhydd cyn paratoi ar gyfer sioe lwyfan Magi a fi, felly es i draw i'r Pafiliwn Dawns i wylio rhagbrofion y gân actol - roedden nhw i gyd am Big Brother. Dim ond dau ges i amser i'w weld, ond nes i fwynhau y cyntaf yn fawr - roeddan nhw wedi rhoi Meic Stevens, Dafydd Iwan, Joe Calzaghe a Catherine Jenkins yn y ty hefo Imogen a fi, a'r stori oedd fod Imogen yn fy ffansio ond doeddwn i ddim am fynd hefo hi am ei bod yn dod o'r dê!

Aeth y sioe lwyfan yn dda iawn - er mai tîm pobl y dê ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth carioci! Dwi'n benderfynnol o ennill fory! Nes i gysgu bron iawn yr holl ffordd adref, ac roedd Magi wedi bod yn tynnu lluniau ohoni efo fy ngheg ar agor!

Ar ôl cyrraedd nol i Gaerdydd aethon ni am bizza i'r bae, a chael diod am ddim hefo 'vouchers' oedd Mair wedi dod hefo hi! Doedd hi ddim yn noson hwyr though, aeth pawb adref ar amser call - gan fod genna ni ddiwrnod trwm arall o'n blaenau fory, a dwy sioe lwyfan!

Hwyl am y tro,

Glyn

xx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.