Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Baftas Shmaftas...

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

La di la. Di la di la

Fi'n teimlo weithiau mai fi yw'r unig berson yn y byd sy heb gofrestri gyda facebook. Na myspace. Dydw i ddim yn bwriadu neud chwaith.

Pan o fi'n neud TGAU Saesneg, roedd rhaid i ni ddarllen llyfr o'r enw Brother in the Land. Roedd e'n llyfr depressing iawn am ryfel niwcliar. Roedd rhywun wedi gwasgu'r bwtwm mawr coch a roedd y bom wedi cael ei ollwng ar Brydain. Ar ôl y fall-out niwclear, dim ond cwpwl o bobol oedd ar ôl ym Mhrydain. Brother in The Land oedd un ohonyn nhw. Fi'n teimlo fel Brother in The Land. Fi weithiau yn teimlo fod dim ond cwpwl o bobol ar ôl yn y byd sy heb gael eu heintio gydag ymbelydredd myspace a facebook. Fi yw'r Chwaer ar y Tir.

Dyw pobol ddim yn siarad gyda'i gilydd rhagor.

Ma pawb just yn ebostio neu anfon negeseuon testun. Neu'n waeth fyth yn ychwanegu "ffrindiau" i'w cyfrifon myspace. Dyn nhw ddim yn ffrindiau go iawn. Just enwau a lluniau gwag. Pam na neiff pobol just siarad gyda'i gilydd? Fi'n meddwl bo pobol ofn siarad â'i gilydd wyneb yn wyneb erbyn hyn. Ma tecsio neu ebostio yn golygu cyfleu negeseuon - heb orfod edrych i fyw llygaid pobol.

Pan chi'n tecstio rhywun gyda newddion drwg - fel "fi'n dympo ti - ti yn hyll," mae'n golygu does dim rhaid i chi weld y boen a'r teimlad a'r emosiwn yn llygaid y person yna. Yn yr un modd, os chi'n ebostio rhywun gyda newyddion da fel, "fi'n caru ti - ti yn lush", dych chi ddim yn gallu profi'i hapusrwydd na chlywed ei chwerthiniaid. Ryn ni'n mynd fel robots. Yn datblygu imiwnedd i emosiynau a theimladau.

Felly ar ôl i chi ddarllen yr egofnod yma, pam na newch chi godi o'ch sedd a mynd i siarad gyda rhywun. Rili siarad. Dim ebostio. Dim tecstio. Dim ffonio hyd yn oed. Actually siarad gyda rhywun. Wyneb yn wyneb. Go on.. off a chi

Ooo - teimlo'n well nawr ar ôl y rant yna...

Traaaaa lyfs

M xxx

O.N - Wrth gwrs ma myspace ddim yn wael i gyd. Os chi'n fand Cymraeg mae'n syniad da cofrestri - cos ellwch chi fod yn fand Gwyliwch y Gofod ar nos Iau ar C2. Os hoffech chi fod yn fand Gwyliwch y Gofod - ebostiwch ni... c2@bbc.co.uk. Neu ffoniwch ni - neu hei - galwch mewn i'r swyddfa i'n gweld!

Wele ddisglaimer bach - rhag ofn bo fi'n cael punch gan rhyuwn

Oes oes gennych chi safle myspace neu facebook, fi ddim yn trio dweud bo chi'n sad ac heb ffrindiau na theimladau. Addo nawr. Just bod e ddim yn cuppa tea fi... (ok, Rob a Sioned?)

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.