Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pen Maen Mawr a Pasta....

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 12:00, Dydd Sadwrn, 10 Mawrth 2007

Wythnos arall ar ben! Dwi mor brysur ar hyn o bryd - chwara'n galed a gweithio'n galed! Yn syth wedi rhaglen fi a Magi ddydd Sadwrn ethon ni allan i gael cinio yn Buffalo Bar gyda'r criw i ddathlu Penblwydd Magi. Nes i brynu potal o win gwyn iddi a dwi'n meddwl fod hi'n hapus gyda'r anrheg yna!!

Nes i yfad eitha lot o win tra'n cael cinio. Roedden ni allan drwy'r dydd ac erbyn i fi gyrraedd Fat Cat roeddwn ni chydig bach yn tiddly! Nes i weld fy chwaer, Annette oedd lawr yng Nghaerdydd gyda'i ffrindiau a hogia Gola Ola felly ges i amser ffantastig. Aeth pawb arall adra yn eitha cynnar ond nes i a Sian a Robin aros allan yn dawnsio tan 3 y bore! Nes i ddeffro bora wedyn yn cysgu yny corridor tu allan i fy fflat. Roedd cur pen anferth gen i ar ddydd Sul, ond daeth Annette draw i llnau'r fflat a helpu fi wella ar ôl fy noson fawr. Nefar again!

Roeddwn i'n well erbyn nos Fercher - sy'n beth da achos roedd rhaglen gen i gyflwyno gyda Daf Du ar C2! Cwis pop nos Fercher oedd rhwng Ysgol Gwynllyw ac Ysgol Brynrefail. Roedd y carioci yn grêt - a nath Brynrefail ennill o un pwynt yn unig!! Rhaglen wych fel arfer!

Dydd Iau nes i fynd ar raglen goginio gyda Angela Grey ar Radio Wales. Nes i ddysgu sut i goginio pasta a tomatos. Ella nai wahodd criw C2 draw i'r fflat a trio'r ryseit allan arnyn nhw. Magi fydd y sbecial guest wrth gwrs achos mae hi'n lyfi.

Reit ta - dwi ar y ffordd adra i Blaena syth ar ôl y rhaglan heddiw. Welai chi wythnos nesa'!

Hwyl

Glyn x

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.