Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth yw'r ots gennyf fi am Efrog Newydd?...

Categorïau:

Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007

Helo helo - dyma fi nol yng Nghymru fach ar ôl wythnos yn jet-setio. Da iawn. Pan o ni'n fach ac yn mynd ar fy ngwyliau gyda mam a dad a Beth fy chwaer, (doedden ni byth yn mynd i Costa Del Sol na dim, roedden ni'n wastad yn cael gwylie ABC... Another Blincin Church.. Another Blincin Capel... ) ond o fi wastad yn cael amser da. Doeddwn i byth yn deall pam felly, fod mam a dad wastad yn dweud "Ooh! Mae'n neis bod adre!" achos yn fy marn i roedd bod unrhywle yn well na bod ym Mhontypridd. Ond nawr fi wedi tyfu lan, fi'n deall be oedd mam a dad yn son amdano. Roedd mynd i Efrog Newydd yn neis, ond mae'n ffab bod nol.

Nath Sian (y cynhyrchydd) ac Emma (fy ffrind ac house-mate) ddychwelyd o Hong Kong wythnos dwetha'. Nethon nhw fynd i Tseina a phrynu hadbags posh iawn am bris rhesymol iawn. Yng Nghymru, bysen ni'n dweud fod y bagiau wedi "cwympo oddi ar gefn lori" ond ma nhw'n fabulous iawn. Nath Emma brynu bag tebyg i'r Mulberry Roxanne a nath Sian gael Dior Saddlebag... fi yn rili cenfigenus. Sgwn i os nai ffeindio un tebyg lawr Bessemer Road ar ddydd Sul?

Nes i ac Emma fynd i siopa i archfarchnad nid an-enwog ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, a nethon ni benderfynu prynu chydig bach o grog gan fod ein coctêl cabinet ni yn wag. Ond pan gyraeddon ni y til dyma'r ddynes tu ol y til yn gofyn yn swrth;

"You gor any i.d girls?"

Nes i ac Emma chwerthin yn braf - chware teg iddi, roedd hi'n garedig iawn. Ydyn, mi rydyn ni'n edrych yn ifanc iawn, ond c'mon Mrs, gad i ni brynu'r jin ife? Dywedodd Emma yn ei Saesneg posh gore:

"Yn anffodus does gennym ddim dystiolaeth oedran, heblaw am ein cardiau credit. Mae'n rhaid i chi fod yn 18 i gael carden credit, felly, mae hynny yn ddigon o dystiolaeth onid ydyw?"

Nath Shereen (dyna oedd ei henw) tu ol y til edrych arnom ni a dweud:
"No ID? No drink - if you're norr 'appy - ill call the boss"

Rhaid oedd gadel y siop gyda'n cynffon rhwng ein coesau - yn teimlo rhyw gymysegdd rhyfedd o falchder am ein bod ni'n edrych mor ifanc, a chynddaredd gan fod rhaid i ni adel yr archfarchnad yn waglaw.

Sheree, love, os ti'n darllen hwn - ti'n neud jobyn a hanner tu ôl y til 'na - ond dwi newydd droi yn 30oed a'r unig beth gwaeth na choctêl cabinet gwag yn Stafford Road, Grangetown yw.... mm... i ddweud y gwir, does dim byd gwaeth na hynny!

Mae'n dda bod adre, bobol

M xxx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.