Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Afal Ddrwg Magi

Categorïau:

Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 24 Mawrth 2007

Dwi newydd ddychwelyd o Efrog Newydd. Roedd yn ace iawn. Alex, Louise, Marged a fi yn y ddinas fawr ddrwg am dridie. Nethon ni sgwisho gwerth mis mewn i ddau ddiwrnod a thair noson. Dwi wedi bod i Efrog Newydd o'r blaen ond roedd y tro cyntaf yn uuhh.. "wahanol" ond stori wahanol yw hynny. Roedd y tro hwn yn wahanol achos roedd y cwmni yn berffaith! Dyma be nethon ni;

  • Cael limo i'r maes awyr - gyda champagne a phopeth!
  • Marged yn cael scrap gyda rhywun ar yr awyren achos nath e roi ei sedd nol a doedd dim lot o le gan goesau Marged
  • Mynd ar daith Sex and The City lle gafon ni lun ty fas i fflat Carrie Bradshaw
  • Mynd o amglylch Central Park mewn cart a cheffyl
  • Mynd i glwb nos posh, lle roedd y DJ yn chware chiawns anhygoel gan David Bowie, Blur a Rod Stewart!
  • Mynd i Time Square a gweld rhywun arall o'r BBC (duw, ma'r byd ma'n fach)
  • Mynd i gael ein gwalltie 'di neud gan fenyw o'r enw Theresa oedd union r'un peth â chwaer Ugly Betty
  • Cael ein aeliau wedi wacsio gan fenywod creulon iawn o Tseina
  • Codi'n hwyr ar y diwrnod ola' a bron colli'r awyren

Nethon ni lot fawr o bethau eri'll ond fi ddim ise'ch diflasu chi drwy fynd mlaen a mlaen a mlaen... ond roedd e'n fab. Wedi blino'n lân nawr ond rhaid cadw ar ddihun achos fi a mam a sian ac emma a lydia a derfel yn mynd i weld Dolly Parton heno. Mam yn addo gwisgo stetson! Yeee Haaa!

Gan fy mod yn Noooo Yoirk dros y penwythnos nath Daf Du gyflwyno gyda Glyn ar ddydd Sadwrn - felly dyma nodyn bach gan Dave the Rave*

Helo! Dyma fi Daf Du. Nes i gyflwyno yn lle Magi ar fore dydd Sadwrn. Doeddwn ni ddim hanner cystal â Magi. Ma hi'n wych. Doeddwn i chwaith ddim yn edrych mor hot â Magi - ma hi wastad yn edrych yn anhygoel pan mae'n cyflwyno ar foreuau Sadwrn. Roedd y gynulliedfa wedi gweld ei heisiau yn arw. Dim ots - fydd hi nol fore Sadwrn nesa! Tata

* ddim yn hollol wir

Magi xxxx

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.