Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Shuttlecock a Shandi!

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Rhuthro o'r stiwdio yn syth mewn i dacsi a lawr a fi i recordio Celebrity Big Brother's Little Brother. Fath ag arfer mi oedd dre' yn brysur iawn. Ar ôl gorffen gweithio, nôl a fi i fy fflat lle oedd fy chwaer Annette a'i chariad Mattias yn aros amdanai. Oeddan ni di pasa mynd i dre ond lawr yn y bae aethon ni yn y diwedd, haws cerdded adre na disgwyl am dacsi.

Doedd yr un ohono ni ar ein gorau dydd Sul. Ar ôl i fy chwaer a'i chariad fynd adre, es i draw i 'Erddi Sophia i wylio'r badminton. diwrnod diog iawn ar y cyfan.

Nos Lun mi o ni'n gwneud 'public apperance' yn Jumpin' Jaks yng Nghaerdydd. Mi dda'th fy 'tour manager' i nôl fi a mynd a fi draw. Nath Siân, Mair a Ian o dim C2 ddod draw 'fyd i weld y sioe. O'ni wedi rhoi eu henwau nhw ar y drws, so bo ddim rhaid iddyn nhw dalu. Es i ymlaen i'r llwyfan am hanner nos, a dawnsio i thema Baywatch. Fel rhan o'r sioe dwi'n tynnu fy nghrys a fy melt -a dim arall! Wedyn dwi'n canu'r egg song, cyn mynd ati i chwarae gems. Fy hoff gem i ydi pasio'r 'ice cube' o geg i geg. Dwi'n gorfod dewis 5 merch o'r gynulleidfa i ddod i'r llwyfan i chwarae'r gem! Gem yr hogia ydi gorfod yfed burger, chips a coke wedi cael ei flendio (tebyg iawn i beth ges i yn y ty, ond cig oen a pavlova oedd hwnnw!)

Bues i'n 'meetio a greetio' am awr a hanner. Ma hyn yn golygu cael tynnu fy llun sawl gwaith a cusanu lot o ferched! Nes i gyrraedd adre tua 2.30am, noson dda iawn!

Dydd Mawrth ydi diwrnod 'Welsh in a Week'. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i fi gadw'n gyfrinach pwy dwi'n ei ddysgu i siarad Cymraeg, ond fydd ddim rhaid i chi aros yn hir, achos mi fydd y rhaglen ymlaen ar Fawrth 1af. Ges i hwyl heddiw, roedd yn rhaid i fi ddysgu'r actores sut i ganu 'sosban fach'!.
Noson dawel i fi wedyn, setlo fy hun lawr ar y soffa am y noson i wylio Big Brother.

Bore dydd Mercher mi oeddwn i yn yr orsaf drenau yn holi pobl pwy oedden nhw'n meddwl fasa'n cael eu evictio o'r ty dydd Gwener. Mi oeddan ni di gorffen ffilmio erbyn amser cinio, felly oedd gennai ddigon o amser i baratoi ar gyfer y parti yn y fflat noson honno. Gan fod ryw gem beldroed ymlaen ar nos Fercher, doedd C2 ddim yn dechra' tan 10 felly doedd gennai ddim rhaglen. Mi ddath criw C2 draw i gael bwyd a hefyd fy ffrindiau badminton. Oedd rhaid i fi dynnu llun y buffet o ni wedi ei wneud er mwyn ei ddangos i Mam, fasa hi byth yn credu bo fi'n gallu paratoi y ffasiwn beth!
Mi o 'ni di prynu'r gem bobbit yn dre, a mae o'n 'mega cool' gafon ni hwyl yn chwarae efo fo, mi oedd pawb yn eitha' da arwahan i Magi oedd yn rubbish a ddim yn trio!! A'th hi'n noson hwyr, oedd hi'n tynnu at 3 o'r gloch ar bawb yn gadael!

O ni'n gorfod mynd i stiwdio C2 p'nawn dydd Iau i recordio rhywbeth ar gyfer rhaglen dydd Sadwrn. Gan bo fi'n rhedeg marathon Llundain efo Daf Du mis Ebrill, o ni'n meddwl y basa fo'n syniad da cerdded o'r bae i'r BBC er mwyn cadw'n ffit! Dydd Iau oedd y tywydd yn afiach, glaw a gwynt a cenllysg! Cymerodd hi dros awr i fi, a mi oeddwn ni'n socian yn cyrraedd y BBC. Nos Iau wedyn mi ddath un o fy ffrindiau coleg i draw i aros, ac a'th hi'n noson hwyr eto!

Gan fod y tywydd dal yn afiach dydd Gwener nes i benderfynu mynd ar un o'r teithiau yna o amgylch castell Caerdydd. A nes i fwynhau!! Yn y p'nawn es i chwarae badminton. Mi oedd rhaid i fi chwarae yn erbyn hogyn 12 oed gan fod pawb arall yn y dosbarth llawer iawn gwell na fi! Noson o flaen y teledu i fi wedyn a gwylio Big Brother. Ar ôl gwylio Ugly Betty es i fy ngwely a gwrando ar Steve a Terwyn ar C2.

Bore 'ma nes i gerdded draw i dy Siân (cynhyrchydd C2) a mynd a platiau yn ôl iddi (o'n ni di gael benthyg platiau ganddi ar gyfer y parti nos fercher). Diwrnod prysur o fy mlaen i heddiw, ar ôl y rhaglen gorfod ffilmio ar gyfer CBBLB ac yna draw i Gastell Newydd Emlyn ar gyfer fy 'public apperance' olaf! Reit tan wythnos nesaf.....

Hwyl

Glyn

x

Anfon sylw

Rhaid i ti ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.