Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hyfforddi peldroed yn Newtown, UDA

Glyn Griffiths | 10:46, Dydd Llun, 17 Rhagfyr 2012

Yr wythnos diwethaf roeddwn yn teithio drwy dref Machynlleth ; bydd y Nadolig ym Machynlleth ymhen rhyw ychydig ddyddiau. Ond y penwythnos diwethaf, fe ddigwyddodd rhywbeth arall a ddaeth ac ysgytwad enfawr imi.

Un mlynedd ar bymtheng yn ôl, roeddwn yn hyfforddi peldroed yn yr Unol Daleithiau.
Y dref olaf i mi ei chyrraedd ar fy nhaith ar ran cwmni Major League Soccer Camps oedd Newtown yn nhalaith Connecticut.

Ie, y Newtown a brofodd hunllef a chyflafan waedlyd yn un o'i ysgolion yr wythnos diwethaf.

O be dwi'n gofio roedd Newtown yn dref groesawgar, glan a thaclus tu hwnt.
Tref ble roedd y cymdogion yn cyd fyw yn gymdogol gyda'i gilydd, tref ble roedd yr eglwys yn ganolog ynghanol y sgwâr, coed yn cysgodi gwres yr haul, a thref ble roedd y plant a'r bobol ifanc yn llawn awch a brwdfrydedd i wella eu gallu a sgiliau peldroed.

Ond daeth y ddelwedd hyfryd yna i ben ddydd Gwener diwethaf.

Ond yn sgil trychineb o'r fath, mae pethau eraill yn dod i gof.

Roedd yr hyfforddwyr peldroed bryd hynny yn aros efo teuluoedd lleol am yr wythnos. Yn nhref gyfagos Bethel oeddwn i'n aros, rhyw bum milltir o Newtown. Nid dyma'r tro cyntaf imi ymweld â Bethel, ond cofiaf yn glir y tro cyntaf imi gyrraedd.

Teithiodd tri ohonom yno mewn car, gan gyrraedd wedi iddi dywyllu - a gan nad oedd golau ar ochr y ffordd y gorau yn yr ardal, roedd yn anodd dod o hyd i'r tŷ oedd yn mynd i fod yn gartre i ni am rai wythnosau.

Felly, d'oedd dim i'w wneud ond stopio a cherdded i ddrws tŷ cyfagos, ar hyd y llwybr tywyll, er mwyn gofyn am gyfarwyddiadau i'r stryd benodol.

Cefais dipyn o sioc wrth weld gŵr yn sefyll o fy mlaen yn y drws ffrynt, gyda reiffl yn ei ddwylo, yn hwnnw'n cael ei bwyntio yn syth amdana'i !

Ond diolch i'r drefn am yr acen Gymraeg - roedd yn amlwg mai rhyw ddieithryn colledig yr oeddwn, ac fe gafwyd y cymorth a chwiliwyd amdano.

Croeso hogia, meddwn, wrth fy nghyd hyfforddwyr ar ôl dianc mor sydyn yn ôl i'r car - croeso i fyd a gwlad y dryll, y gwn a'r ofn.

Ond tydi stori gynnau a'r Unol Daleithiau ddim yn gorffen yma.

Mewn tref ger dinas y Crynwyr - y ddinas frawdgarol - Philadelphia, cafwyd profiad llawn mor anghyfforddus .

Cyfarfûm eto yn nhŷ un o drefnwyr lleol y cwrs hyfforddi, ac yno fe ddysgais wers yn weddol fuan am psyche yr Americanwr.

Yno, uwchben y silff ben tan, yn wynebu pawb, a ddaethai i'r ystafell fyw, oedd darlun o un o gyn arlywyddion America, gyda'r dyfyniad - 'God and guns made America great!'

Draw yn Newtown y penwythnos diwethaf, daeth fy hunllefau gwaethaf yn fy mewn cyflafan waedlyd.

Allai wneud dim mwy na gweddïo ( i rhywun neu rhywbeth) a meddwl am y plant a gafodd eu hyfforddi gennyf dros bymtheng mlynedd yn ôl.

Tybed a ydi rhai ohonynt yn rieni i'r trueiniaid bach a gafodd eu lladd ddydd Gwener?

Ar drothwy Gwyl y Nadolig , tybed a fydd y Tywysog Tangnefedd yn dathlu ei ben-blwydd mewn llawenydd a heddwch draw yn Newtown bell yr wythnos nesaf ?

'God and guns made America great? Duw a'n gwaredo!

Ystyriwn hefyd drigolion tref Machynlleth agos - mor anodd ydi meddwl am eiriau addas o gymorth a chefnogaeth mewn amgylchiadau anesboniadwy ac annealladwy.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.