Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Neges o Ganada gan Rhian Wilkinson

Glyn Griffiths | 17:11, Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Hwyrach i chi gofio imi gyfeirio yn y blog yn ystod y Gemau Olympaidd at y ferch a gafodd ei magu ym Mro Morgannwg, ond sydd yn chwarae peldroed dros Ganada, sef Rhian Wilkinson.

Cefais ei chyfarfod ar ddiwedd y gêm rhwng Canada a Thîm GB pan drechodd Rhian a'i thîm ferched Prydain - a Rhian yn derbyn y Ddraig Goch gennyf yn sgil y llwyddiant.

Yr wythnos olynol, roedd Canada yn wynebu'r Unol Daleithiau yn Old Trafford, gyda'r Ddraig Goch yn cwhwfan yn y gwynt gan fam Rhian (sy'n hanu o Fro Morgannwg)

Cefais neges e-bost gan Rhian yr wythnos yma, a dyma'n fras ei gynnwys:

"Diolch yn fawr am anfon copïau o'r erthyglau a ysgrifennoch amdanaf. Rwyf erbyn hyn wedi dychwelyd i chwarae gyda fy nghlwb yn Norwy.

Roedd y Gemau Olympaidd yn brofiad anghredadwy, a rhywbeth y byddaf yn ei gofio am weddill fy mywyd.

Roedd ennill y Fedal Efydd wedi gwireddu fy mreuddwydion, ac fel geneth ifanc, roedd ennill medal yn rhywbeth yr oeddwn wedi breuddwydio amdano.

Hoffwn ddiolch i chi, a'ch gwraig, am fod yn rhan o'r profiad.

Mae fy etifeddiaeth Gymreig yn bwysig iawn i mi, cymaint felly nes iddo fod y lle cyntaf imi ymweld unwaith roedd y Gemau wedi dod i ben, ac roedd gweld y Ddraig Goch yn hedfan i mi yn y gemau peldroed yn ARBENNIG iawn.

Diolch i chi am eich cefnogaeth gobeithio y cawn gyfarfod eto."

Ie, y Gymraes nas gwyddai lawer ohonom amdani, ac a gipiodd y Fedal Efydd gyda thîm peldroed Canada.

Bydd tîm peldroed Cymru yn brwydro am eu heinioes mewn gem allweddol yn erbyn yr Alban yr wythnos nesaf. Allai wneud dim gwell na dweud wrthynt am efelychu'r balchder mae Rhian yn ei ddangos yn ei chefndir Cymreig - a rhoi, fel Rhian y gorau i mewn i'r gêm.

Does ond gobeithio fod ein peldroedwyr hefyd yn gallu dangos eu bod yn wladgarwyr tra mad.

Cym on Cymru - mae'r esiampl wedi ei osod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.