Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhian Wilkinson - Cymraes yn nhim Canada

Glyn Griffiths | 12:26, Dydd Mercher, 1 Awst 2012

Prynhawn Iau bydd tîm peldroed merched Canada yn brwydro am y fedal efydd yn erbyn Brasil yn Stadiwm Dinas Coventry. Ond daethant mor agos i sicrhau eu lle yn y ffeinal. Roedd eu gem nos Lun yn erbyn yr Unol Dalaethau yn llawn cyffro ac ymysg y mwyaf gwefreiddiol rwyf wedi ei weld ers beth amser.

Gyda'r ddau dîm yn gyfartal, tair gôl yr un, gydag ond munud ar ddiwedd yr amser ychwanegol ar ôl, llwyddodd peniad Alex Morgan i sicrhau mai'r Unol Dalaethau fydd yn Wembley nos Iau yn wynebu Japan ac yn cystadlu am y fedal aur.

Chwaraeodd y ferch o Bontfaen, Rhian Wilkinson, ei rhan yn allweddol yn amddiffyn Canada ac er waethaf hatrick rhagorol gan y blaenwraig Christine Sinclair, roedd y daran ar ddiwedd y gêm yn dipyn o ergyd.

Yn dilyn fy erthygl flaenorol am Rhian Wilkinson, yr eneth sydd a'i gwreiddiau ym Mro Morgannwg ac sydd yn chwarae peldroed i dîm merched Canada yn y gemau Olympaidd, cefais gyfle i gael sgwrs gyda hi ganol wythnos am ei gyrfa yn y byd peldroed.

Amddiffynwraig ydi Rhian, ac er mwyn canolbwyntio ar y Gemau Olympaidd, nid yw wedi ymuno ac unrhyw glwb hyd yn hyn ar ôl gorffen chwarae yn broffesiynol yn Norwy gyda thimau merched Strommen a LSK Kvinner. Cyn hynny roedd yn chwarae yng Nghanada i dîm yr Ottawa Fury.

Mae eisoes wedi cynrychioli Canada mewn dros gant ac ugain o gemau rhyngwladol, a hynny dros gyfnod o naw mlynedd ers y gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Dalaethau yn 2003. Hyd yn hyn, mae Rhian yn un o ddim ond wyth o ferched sydd wedi cynrychioli Canada mewn dros cant o gemau.

Ar wahân i gystadlu yn y Gemau Olympaidd (yn 2008 yn ogystal ag eleni) mae wedi chwarae mewn pedair cystadleuaeth i dimau rhanbarth CONCACAF o FIFA; ddwywaith yn y gemau Pan Americanaidd; a hefyd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd i Ferched.

Ond nid Rhian ydi'r unig gysylltiad Cymreig a thîm merched Canada. Mae un o'r staff hyfforddi, Robert Sherman yn enedigol o Aberystwyth - ac wedi bod, yn y gorffennol, yn aelod o staff Ymddiriedolaeth Cymdeithas Beldroed Cymru, fel Cyfarwyddwr Technegol cyn penodiad Osian Roberts.

Tipyn o gêm ar Old Trafford a thipyn o siom i'r ddau sydd â chysylltiadau agos a Chymru.
Ond ymlaen i Coventry ddydd Iau, i wynebu Ffrainc gyda'r fedal efydd yn eu golwg.

Pob lwc iddynt a'u tîm.

Er bod tîm merched Prydain wedi cyrraedd y chwarteri yn y gystadleuaeth, tydi'r rheolwraig Hope Powell heb wneud fawr o ddim i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched i chwarae peldroed yng Nghymru. Dim Cymraes o gwbl yn y garfan er y gellir dadlau bod Jessica Fishlock a Gwennan Harries wedi gwneud digon i haeddu eu lle yn y garfan.

Os na all Hope Powell ysbrydoli genethod ifanc Cymru, tybed a all Rhian Wilkinson, y ferch o Fro Morgannwg, ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i chwarae peldroed ar hyd a lled Cymru?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.