Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2011

Pêl-droed yn y Gemau Olympaidd

Categorïau:

Glyn Griffiths | 10:05, Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Oes yna ormod o stŵr wedi ei greu ynglŷn â phêl-droed yn y Gemau Olympaidd?

Sail y stŵr ydi'r ofn y byddai FIFA yn gwrthod cydnabod annibyniaeth Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban (a hefyd Lloegr?) yn y dyfodol petai'r tîm Prydeinig ( tim GB) yn cael ei ffurfio. Er bod FIFA, drwy eu Llywydd Sepp Blatter wedi sicrhau annibyniaeth y gwledydd Celtaidd, mae'n dweud llawer am sefyllfa bêl-droed FIFA nad yw pobol yn rhyw siŵr iawn os gallant ymddiried yn ei eiriau a'i addewidion. Ond mae pobol hefyd yn dechrau creu pob math o resymau pam na ddylid cefnogi Tîm GB, gan fynd ar daith wleidyddol sydd heb unrhyw gysylltiad â'r pryder gwreiddiol.

Os gall rhywun gefnogi tîm criced Lloegr (sydd ddim yn cynnwys enw Cymru, er iddo gynnwys chwaraewyr Cymreig) fel mae nifer o gefnogwyr pêl-droed yn ei wneud yn yr Haf, neu ymfalchïo yng nghampau'r Llewod ar y caeau rygbi, neu gefnogi timau Cymru sydd yn chwarae yng nghynghreiriau Loegr, pam na ellir cefnogi'r tîm pêl-droed am un gystadleuaeth, os na fydd yn effeithio ar annibyniaeth Cymru?

Mae'r amser wedi dod i wneud penderfyniad - a hwyrach y dylai Sepp Blatter, unwaith ac am byth, ddod allan eto'n gyhoeddus a chefnogi dyfodol Cymru, a'r gwledydd Celtaidd eraill, fel gwledydd cydnabyddedig annibynnol oddi fewn i gyfundrefn FIFA a sicrhau iddynt eu dyfodol annibynol.

Mae cyn capten Cymru, Kevin Ratcliffe eisoes wedi dweud y byddai wedi bod yn falch o fod wedi cael chwarae yn y Gemau Olympaidd petai'r cynnig wedi dod iddo fo yn ystod ei yrfa. Mae rheolwr tîm Gogledd Iwerddon, Nigel Worthington hefyd yn ymddangos fel petai yn cefnogi'r syniad, ond barn hollol wahanol, sydd gan gyn golwr Cymru, Neville Southall.

Os caiff annibyniaeth Cymru ei warantu gan FIFA, yna fe allaf innau fel y cefnogwyr rygbi a chriced gefnogi'r tîm Prydeinig am ychydig o wythnosau yng nghanol yr haf y flwyddyn nesaf. Ond, os na chaiff yr annibyniaeth yna ei warantu, yna wfft i dim GB, Seb Coe, a phawb arall.

Yn anffodus, mae cyhoeddiad y Gymdeithas Beldroed (Lloegr), sydd yn honni fod yna gytundeb hanesyddol wedi cael ei gytuno, wedi cythruddo llawer, gan fod amheuaeth fawr am fodolaeth unrhyw gytundeb.

Bydd y ffrae yn siŵr o barhau am amser - ond mae'n bryd i Loegr hefyd dderbyn na allant fynd o gwmpas yn honni pethau sydd y diwrnod wedyn yn cael eu gwadu gan wledydd eraill Prydain.

Fydd yna ddim cytundeb unfrydol ymysg cefnogwyr pêl-droed, ond yn ôl yr hyn a allaf ei weld, does yna ddim hawl cyfreithiol gan unrhyw un rhag rhwystro unrhyw chwaraewr rhag chwarae dros Brydain - a dyna o bosib fydd diwedd y stori.

Pêl-droed ysgolion Cymru

Glyn Griffiths | 14:18, Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae hi'n ganmlwyddiant ar Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru, ac fel i nifer o chwaraewyr ifanc a ddaeth i chwarae'r gêm yn broffesiynol, mae gen innau le i ddiolch i bêl-droed ysgolion Cymru.

Dyma ble cefais y cyfle cyntaf i hyfforddi - gyda thîm ysgolion cynradd Glannau Dyfrdwy a gyda bachgen bach o'r Fflint, Ian Rush yn sgorio goliau di-ri ym mhob gem.

Roeddwn yn ffodus, newidiais i hyfforddi timau ysgolion uwchradd sir Fflint, ac, ie, roedd Rushie hefo fi eto o dan bymtheng oed cyn iddo ymadael ac ymuno a thîm Caer. Ymlaen i Lerpwl a dyna enedigaeth un o gewri mwyaf y gêm.

Pa mor enwog oedd Ian Rush? Pan oeddwn yn hyfforddi yn agos i ardal y Bronx yn Efrog Newydd yn yr wythdegau fe ofynnwyd i mi gan griw o chwaraewyr Eidaleg/Americanaidd os oeddwn wedi clywed am y chwaraewr a ymunodd yn ddiweddar a Juventus - rhywun o'r enw Ian Rush! Cawsant wers. Ond daeth sioc o sylweddoli cymaint oedd enwogrwydd y bachgen bach yma o Fflint - pan ofynnais i'r Americanwyr os oeddynt yn adnabod enwau unrhyw chwaraewyr eraill. Diego Maradona oedd yr unig un a oeddynt wedi clywed amdano, heblaw am Ian Rush. Daeth ias oer i lawr fy nghefn achos yna, ynghanol anialwch dinesig y Bronx, deuthum i sylweddoli mawredd un a fûm yn rhoi help llaw iddo pan oedd yn ifanc!.

Ond nid Ian Rush oedd yr unig un imi gael y fraint o'i helpu.

Roed Kevin Ratcliffe yn dangos arweiniad fel capten hyd yn oed pan yn un ar ddeg oed, a Barry Horne yn ffyrnig ei ddull yng nghanol y cae.
Cefais gyfle i hyfforddi tîm Gogledd Cymru o dan 15 oed hefyd - a bachgen a choesau tenau a elwid Sparky yn chwarae ynghanol y cae - o ardal Rhiwabon - ger Wrecsam - wrth gwrs Mark Hughes inni gyd erbyn heddiw.

Erbyn yr wythdegau roeddwn yn rhan o dîm hyfforddi Iolo Owen o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a' thîm cenedlaethol o dan19 oed. Sêr y tîm oed un a ddaeth yn chwedl yn Uwchgynghrair Cymru, blaenwr Marc Lloyd Williams, ac roedd yna olwg addawol hefyd ond meddyliodd am newid siâp y bel a daeth Andrew Moore yn arwr i Gymru ar y cae rygbi. O ie roedd un chwaraewr arall, eiddil ei gorff ond cryf ei galon - y bachgen addfwyn o bentref Gwersyllt gerllaw Wrecsam , llawn asbri, doniolwch a llawn direidi- Robbert Savage. Ie chwaraewyr galluog a braint oedd cael bod yn rhan o'u datblygiad cynnar.

Ond cyn cloi rhaid cyfeirio at un arall a oedd yn rhan allweddol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru - y diweddar Ieuan Gruffydd a fu yn rheolwr ar y tîm o dan 19 oed am rai blynyddoedd.

Heblaw hyfforddi yma yng Nghymru aeth Ieus draw i'r Unol Dalaethau - i dalaith New Mexiso gan sefydlu tîm peldroed Albuquerque United, sydd â'r ddraig goch Cymreig fel bathodyn y clwb. Erbyn heddiw mae enw Ieuan yn parhau i gael ei gofio a chael ei barchu gan bawb yn yr ardal ac i dalu teyrnged iddo am ei waith arloesol, mae cae pêl-droed y tîm wedi ei enwi ar ôl y Cymro sef 'The Ieuan Guffydd Memorial Football Park'.

'The Ieuan Guffydd Memorial Football Park'

Ie mae Cymru hyd a lled y byd wedi bod yn ddylanwadol ar y gêm a neb llai na Ieus draw draw ymhell dros y don o Gymru fach.

Cewch hanes Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru mewn llyfr gan Ceri Stennet, 'As Good as it Gets': A Centenary History of the Welsh Schools Football Association.

Gemau yr Ynysoedd

Glyn Griffiths | 08:52, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Credwch neu beidio ond mae paratoadau ar gyfer y tymor nesaf yn dechrau'r wythnos yma yng Nghymru!

Gyda gem rhag paratoadol i'w chwarae yng nghwpan Ewropa, bydd y Seintiau Newydd yn croesawu tîm Ynys Môn I Neuadd y Parc brynhawn Sul, cyn wynebu Cliftonville o Felfast, hefyd ar Neuadd y Parc, ar y Sadwrn dilynol.

Byddant hefyd yn teithio i Ogledd Iwerddon I wynebu tîm arall o Felfast, Glentoran ar ddydd Sadwrn y pumed ar hugain o Fehefin.

Anodd ydi cael hyd i wrthwynebwyr mor fuan yn ystod yr Haf. Yn sgil hyn mae syniad y Seintiau, sydd wedi gwneud tripiau i gledd Iwerddon yn rhan annatod o'u paratoadau dros y blynyddoedd diweddar yn dangos gweledigaeth a threfn o fewn y clwb.

Mae'r syniad o chwarae Ynys Môn hefyd yn taro deg. Bydd tîm yr Ynys yn cystadlu yn gemau'r Ynysoedd, i'w cynnal ar Ynys Wyth, gyda gemau yn erbyn Ynys Wyth ar y 26 o Fehefin, Gibraltar y diwrnod canlynol, ac Alderney ar yr wythfed ar hugain.

Mae Ynys Môn wedi cystadlu mewn mwy o gemau beldroed o fewn y gystadleuaeth yma nac unrhyw ynys arall, gyda'r fuddugoliaeth orau yn dod dros Ynysoedd Hitra o Norwy yn 1987 o wyth gol i ddim.

Y gêm gyntaf i Fôn chwarae ynddi oedd honno yn 1989, yn Gota, Ynysoedd y Faro, yn erbyn tîm yr ynysoedd hynny ( sydd eisoes yn aelodau llawn o FIFA) gan golli o chwe gôl i ddim. Llwyddodd Ynys Môn I gipio'r bencampwriaeth yn 1999, fan guro Ynys Manaw yn y ffeinal, a gynhaliwyd ar ynys Gotland yn Sweden.

Y deiliad presennol ydi ynys Jersey a gurodd Aland o ddau gol i un yn 2009.

Diwedd un tymor a pharatoadau ar gyfer y nesaf cyn i rywun gael amser i droi rownd!

Os ydych yn gwybod ân gemau cyfeillgar sydd am gael eu cynnal o fewn yr wythnosau nesaf, a rheini yn erbyn timau anghyfarwydd neu tramor, gadewch inni wybod, yma ar 'Ar y Marc' .

Wembley

Categorïau:

Glyn Griffiths | 11:42, Dydd Gwener, 3 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

A dyna ble roeddwn i ar faes Wembley yn awr anterth Abertawe.

Roedd awyrgylch unigryw a thrydanol yr achlysur i'w flasu yn syth wrth i rywun gerdded allan o orsaf trên Wembley Park - crysau glas cefngogwyr Reading yn cael eu boddi gan don ar ôl ton o grysau du a gwyn Abertawe.

Cerdded i lawr Wembley Way, a Radio Wales yn cyflwyno cyn arwr y Swans, Lee Trundle, a rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru yn cyfleu'r cyffro, y wefr a'r awyrgylch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys selogion yr Urdd ar y maes yn Felindre.

Roedd cyn arwr arall o'r Swans yno hefyd, chwaraewr canol cae Cymru a Norwich City, Owain Tudur Jones, yn ei grys du Abertawe a sgarff du a gwyn, tra roedd John Hartson, yn gwneud ei ffordd i'r stadiwm ynghanol crysau'r Jacks.

Abertawe v Reading, Wembley

Roedd dau weinidog yno hefyd - Tecwyn Ifan ac Eirian Wynne yn gweddïo yn dawel am fuddugoliaeth efallai, a'r bardd Robat Powell yn barod i weld yr Elyrch yn cael eu cadeirio yng nghanol ymffrost y cefnogwyr .

Roedd yna ddwy ferch gommon (o Townhill efallai) hefyd a ddaeth i eistedd o'm blaen, yn llawn rhegfeydd ond doedd neb yn malio dim am Tracy Rees na'i ffrind.

Erbyn hanner amser, roedd yn hymns ac arias o'n cwmpas a'r ddwy ferch gommon mae'n debyg yn meddwl y byddai rhaid i hwythau, fel Abertawe, godi eu safon, os am wneud rhywbeth ohoni yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.

Ond och a gwae - o fewn deng munud roedd Reading wedi sgorio dwywaith!.

Os oedd angen gweddi bersonol cyn dechrau'r gêm, roedd angen i'r ddau weinidog gynnal cyfarfod gweddi gyhoeddus erbyn hyn!

A roedd y ddwy ferch gommon hefyd yn ymddangos fel petaent am ddechrau gweddïo - a hynny am gol arall i Abertawe.

Atebwyd yr alwad, a gweddi gan Tecwyn Ifan efallai, wrth i Scott Sinclair greu curiad yn eu calonnau, fel bandit yr awr, ac yn efelychu Robat Powell, ym mrig hwyrwynt y gêm, wrth gyflawni hat-trick, a chlywed yr hymns ac arias yn cael eu morio mewn cymanfa arall o addoliant.

Ta waeth am yr Eisteddfod. Roedd urdd y cefnogwyr yn gwybod fod y daith i wlad yr addewid am gael ei chyflawni, a daeth nefoedd fach i ni gyd yng nghanol plasty moethus Wembley wrth i dîm y dref wen gyrraedd yr ochor draw i'r mynydd gydag ysbryd Rebeca yn eu gwaed!

Ond cyn gôr-ddathlu - a oes yna bot o bryfaid genwair wedi ei agor efallai?
Ar y daith adre, roedd llinellau ffon y cyfryngau Seisnig yn llawn cenfigen - fod tîm o Gymru wedi cyrraedd Uwchgynghrair Lloegr a pha hawl oedd ganddynt i wneud Hyn?

Yn ogystal roedd cyfeiriad at y drefn o ddisgyblu chwaraewyr - timau Cymru o dan drefn Cymdeithas Beldroed Cymru, y gweddill o dan dref Lloegr.

Ac yn olaf, cyfeiriwyd at y ffaith petai Abertawe yn gorffen yn bedwaredd yn yr Uwchgynghrair ac yn dod yn gymwys i chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, ar ran Lloegr, yna fe ddylid disgwyl am her gyfreithiol gan dîm a fyddai wedi gorffen yn y pumed safle!

Tymor diddorol o'n blaenau, ac na, does dim byd yn syml yng Nghymru!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.