Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwpan Cymru

Glyn Griffiths | 09:04, Dydd Gwener, 28 Ionawr 2011

Cwpan Cymru ac mae nifer o gemau diddorol y penwythnos hwn megis y Rhyl yn erbyn y Seintiau Newydd, Caerfyrddin herio GAP Cei Conna tra bod Llanelli oddi cartref yn erbyn Derwyddon Cefn.

Mae'r tri thîm y tu allan i'r Uwchgynghrair yn geffylau blaen yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, ac yn brwydro am ddyrchafiad, yn ôl i brif gynghrair Cymru eleni. Tybed all un ohonynt greu syndod yn y gwpan?

Ond faint o gystadleuaeth ydi Cwpan Cymru erbyn hyn?

Allai ddim gweld pam na all mawrion Cymru, fel Abertawe, Caerdydd ac eraill gael gwahoddiad i'r gystadleuaeth.

Onid tecach fyddai gweld cystadleuaeth agored, gyda phob tîm o fewn Cymru yn cael eu gwahodd?

Fyddai hyn yn siŵr o godi safon Cwpan Cymru, a petai Caerdydd yn fuddugol, byddai safon ein cystadlu yn Ewrop yn codi hefyd.

Gallaf dderbyn ei fod yn fwy anodd cynnwys y timau yma mewn Cynghrair o fewn Cymru.

Onid ydi'r amser wedi cyrraedd pan ddylem ymestyn gwahoddiad i bob tîm yng Nghymru i gystadlu am ein Cwpan cenedlaethol, ac yn sgil hyn godi safon y cystadlu o fewn Cymru a hefyd o fewn Ewrop?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.