Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ble aeth pawb?

Categorïau:

Dylan Jones | 14:16, Dydd Iau, 26 Mawrth 2009

Mae gan Gymru ddwy gêm fawr dros y dyddiau nesaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd gyda'r Ffindir a'r Almaen yn ymweld â Chaerdydd.

Prin 14,000 o docynnau oedd wedi eu gwerthu ganol wythnos ar gyfer y gêm yn erbyn y Ffindir yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Er bod Cymdeithas Bêl Droed yn gobeithio y bydd dros 20,000 yn bresennol ar gyfer y gêm honno, mae'r diffyg diddordeb yn nhim ifanc John Toshack yn destun pryder.

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd tîm Cymru yn cael y torfeydd gorau ymysg holl wledydd Ewrop diolch i docynnau rhesymol a cyfnod cymharol lwydddiannus Mark Hughes.

Wythnos yn ôl roedd dinas Caerdydd dan ei sang gyda miloedd o Wyddelod wedi heidio i dde Cymru ar gyfer y gêm rygbi fawr ar benwythnos olaf y Chwe Gwlad.

Wrth gwrs does 'na ddim Camp Lawn yn y fantol y Sadwrn hwn - ond mae'r gêm yn hollbwysig i obeithion Cymru a'r Ffindir o gyrraedd Cwpan y Byd 2010.

Mae rhai o chwaraewyr Cymru wedi erfyn ar gefnogwyr Cymru i'w cefnogi gan ddatgan nad yw stadiwm hanner gwag yn gwneud fawr ddim i'w hysbrydoli.

Ond efallai na ddaw'r cefnogwyr hynny yn eu miloedd i'w cefnogi hyd nes y bydde nhw'n trechu tim o bwys.

Mae'r gemau yn erbyn y Ffindir a'r Almaen yn gyfle gwych iddyn nhw wneud hynny gan atgyfodi eu gobeithion prin o gyrraedd De Affrica yr haf nesaf.

Bydd criw Ar y Marc yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Ffindir ac yn trafod y ffilm 'The Damned Utd' ar y rhaglen fore Sadwrn am 08:30 GMT.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:34 ar 1 Mai 2009, Rhys ysgrifennodd:

    Mae'r torfeydd yn gyfuniad o (o leaif) tri prif ffactor

    -prefformiadau gwael y tim (ymdrech y chwaraewyr a thactegau'r rheolwr - er yn erbyn yr Almaen, roedd gwelliant yn y ddau)

    -dwy gêm cartref mor agos i'w gilydd ddim yn ddeiniadol yn enwedig i rai sy'n teithio o'r gogledd. Hefyd, fe effeithiodd gêm y dydd Sadwrn wedyn ar yr awydd i ddod nos Fercher.

    - Ond i mi, y peth sy'n gwenud i mi biedio a bod eisiua mynd i weld Cymru (er mod i'n mynd pob gêm gartref) yw'r diffyg awyrgylch.
    O'r dechrau cyntaf, mae cael canwr clasurol i ganu'r anthem yn lladd pob angerdd gan y cefnogwyr, wrth iddo fo neu hi fynnu canu'n hynod araf, ac mae lefel y sain yn boddi swn y dorf.
    Mae'r busnes seddi'n unig yn effeithio pob gêm pêl-droed wrth gywrs, ond gan nad yw trwch helaeth o gefnogwyr CYmru'n mynychu gemau o wythnos i wythnos, maen't yn fwy swil ac ddim am ganu (nac ychwaith oes ganddynt unrhyw 'chant.

    Braf clywed cynlluniau Bradford City i arbrofi gyda dod a'r dewis i sefyll mewn rhan o'u stadiwm y tymor nesaf.
    http://www.fsf.org.uk/media/uploaded/Standup4theBantams.jpg
    Yn eironig ddigon, pen es i wylio Wrecsam ar eu maes tua 2-3 tymor yn ôl, yna y gwelais i'r stiwardiad yn bod yn fwya llym (a bygythiol) tuag at gefnogwyr oedd yn meiddio sefyll.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.