Advertisement

Blog Ar y Marc homepage

Wythnos a hanner!

Ian Gwyn Hughes | 17:05, Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Dyna chi wythnos o ran rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Y cyffro yn y Sudan, canlyniad gwych i Slofenia yn erbyn Rwsia a'r holl ddadlau yn Iwerddon yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn y gêm ym Mharis.

Mae'n siŵr fod llawer ohonoch chi sydd yn darllen hwn yn ymwybodol ac efallai hyd yn oed yn cofio llaw Joe Jordan yn Anfield yn 1977.

Tafliad i'r Alban a Jordan blaenwr yr Albanwyr yn llawio a'r dyfarnwr yn rhoi cic o'r smotyn i'r Albanwyr o bawb.

Don Masson yn sgorio heibio Dai Davies a Chymru unwaith eto yn boddi wrth ymyl y lan. Hyd heddiw mae'r digwyddiad yn dal i boeni a brifo capten Cymru ar y noson Terry Yorath.

Mae Lloegr yn son yn aml am law Duw, pan lawiodd Diego Maradona y bêl yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn 1986.

A bellach mi fydd y Gwyddelod yn hawlio fod Thierry Henry wedi twyllo wrth lawio'r bêl nid unwaith ond ddwywaith cyn i Gallas benio i'r rhwyd a sicrhau lle i Ffrainc yn y rowndiau terfynol yn Ne'r Affrig flwyddyn nesaf.

Bu son am alw ar Fifa i ail chwarae'r gêm ond doedd hynny byth am ddigwydd.

Ac a bod yn onest pe bai rai o chwaraewyr Iwerddon wedi manteisio ar y cyfleoedd yna fyddai'r ddadl ddim wedi codi yn y lle cyntaf.

Dyna yn ddiddorol oedd ymateb Roy Keane.

Teg dweud nad oes fawr o gariad rhwng Keane a chymdeithas bêl-droed Iwerddon ond yn ôl rheolwr Ipswich yr un hen glochdar a swnian oedd yn dod gan y Gwyddelod, yn cwyno am hyn a'r llall yn lle derbyn iddyn nhw fethu cyfle gwych i gyrraedd y rowndiau terfynol a doedd neb arall i feio ond eu hunain.

Ond mae'n siŵr y bydd Llywydd Uefa, Michel Platini yn ddigon bodlon.
Yr Aifft yn ennill o ddwy i ddim a hynny yn golygu gêm arall mewn gwlad niwtral .Chwaraewyd y drydedd gêm rhwng y ddwy wlad yn y Sudan ganol yr wythnos gydag Algeria yn ennill o gôl i ddim.

Cymaint yw'r siom a'r atgasedd yn yr Aifft maen nhw yn bygwth peidio â chwarae pêl droed rhyngwladol yn y dyfodol.

Er dyw'r atgasedd ddim mor wael ag yr oedd o yn 1970 rhwng El Salvador a Honduras. El Salvador enillodd a chyrraedd y rowndiau terfynol ym Mecsico. Arweiniodd hynny at ryfel rhwng y ddwy wlad. Anhygoel.

Roedd canlyniad Slofenia yn anhygoel, gwlad mor fach yn curo Rwsia oedd wedi gorffen yn ail yng ngrŵp Cymru. Mae Rwsia wedi buddsoddi miloedd yn y gêm ac wedi talu cyflog anrhydeddus i Guus Hiddink felly mi fydd y siom yn aruthrol.

Siom efallai hefyd i Fifa gyda sawl un yn amau eu bod yn gwneud eu gorau glas i wneud yn siŵr mai'r gwledydd mawr a phwerus gyda'r arian sydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol.

Ond yr hyn ddenodd fy sylw i yn fwy na dim oedd digwyddiadau ar ac oddi ar y cae rhwng Aifft ac Algeria. Saith deg pump o filoedd yn y cae a 15,000 o filwyr a heddlu i gadw trefn rhwng dwy wlad oedd fel pe bai nhw yn casáu ei gilydd.

Sacrebleu!

Glyn Griffiths | 10:03, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

Llwyddodd Joe Jordan, llwyddodd Diego Maradona, a nos Fercher, fe lwyddodd Thierry Henry i dwyllo mewn gêm allweddol yng Nghwpan y Byd.

ireland_france.jpg

Os fu tystiolaeth erioed i ddefnyddio technoleg mewn gemau allweddol, yna fe ddaeth yr awr pan ddefnyddiodd Thierry Henry ei law i reoli'r bêl cyn croesi a gweld William Gallas yn sgorio i guro Gweriniaeth Iwerddon ac anfon Ffrainc i ffeinals Cwpan y Byd.

Welodd y dyfarnwr ddim, welodd cynorthwywyr y dyfarnwr ddim, a bydd Iwerddon yn gweld dim o'r cyfoeth ariannol a fydd yn llifo i Ffrainc yn sgil y twyllo.

Mae yna rywfaint o ymdrech wedi ei wneud i geisio datrys digwyddiadau dadleuol yng ngheg y gôl yng nghystadlaethau Cwpan Europa.

Gwelais Everton yn chwarae Benfica yn ddiweddar gyda dau is-ddyfarnwyr yn sefyll wrth geg y naill gôl a'r llall.

Ar noson oer roedd y ddau is-ddyfarnwr yn ysu am gael rhywbeth i'w wneud - unrhyw beth, a phan oedd y bêl yn cyrraedd y pen pellaf o'r cae, roedd yr is-ddyfarnwyr yn crwydro gan sefyll wrth ochor y golwr rhywle o gwmpas y smotyn gwyn yng nghanol y cwrt cosbi.

Ni wnaeth yr un ohonynt unrhyw gyfraniad, ac yn wir y farn gyffredinol ydi fod yna ddau ddyfarnwr arall mewn gemau o'r fath, ac yn barod i gymhlethu bywyd chwaraewyr yn fwy byth!

Mae'r amser wedi dod i ddefnyddio technoleg mewn gemau pêl-droed, yn union fel ac a geir mewn gemau rygbi, neu tennis, er enghraifft.

Mae Joe Jordan yn cael ei gofio am dwyllo, mae Diego Maradona yn cael ei gofio am gyfeirio at Law Duw wrth iddo hefyd dwyllo.

Yr wythnos yma, mae Llaw'r Llyffant wedi llwyddo i anfon Ffrainc a Henry i Ffeinals Cwpan y Byd!

Ond tybed sut y bydd cefnogwyr pêl-droed yn cofio Thierry Henry yn y dyfodol?

Mae llawer o hyfforddwyr a rhieni yn ceisio argyhoeddi chwaraewyr ifanc na ddaw unrhyw lwyddiant wrth dwyllo.

Ceisiwch eu hargyhoeddi o hyn yn sgil gweithred Thierry Henry, ac absenoldeb technoleg gyfoes!

Sawl peth positif o'r gêm

Categorïau:

Ian Gwyn Hughes | 12:50, Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Er nad oeddwn i yn teimlo fod fawr o bwrpas i'r gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn mae'n rhaid imi gyfaddef imi fwynhau'r gêm yn erbyn Yr Alban ac yn enwedig perfformiad Aaron Ramsey.

Roedd yr hanner cyntaf yn un cyffrous, llawn digwyddiad ac roedd Cymru wedi'r 10 munud agoriadol tipyn gwell na thîm George Burley.

Roedd sawl peth positif o'r gêm. Yn gyntaf ac yn bennaf y canlyniad. Mi wnaiff hynny fod o les i hyder y chwaraewyr a chynnig gobaith i'r cefnogwyr. Mi roedd safon y chwarae yn uchel yn enwedig y gwaith creadigol wrth greu'r tair gôl. Mi chwaraeodd Aaron Ramsey ran allweddol yn y tair, yn cynorthwyo i greu dwy a sgorio'r drydedd ei hun.

Darllen gweddill y cofnod

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.