Update on the Eos royalties dispute

Director, BBC Cymru Wales

Tagged with:

This blog post is available in English and Welsh. The translated version is available below. 

My name is Rhodri Talfan Davies and I’m the Director of BBC Cymru Wales. In light of the recent news stories which have been written about the dispute between musicians and composers that currently affects our programming on BBC Radio Cymru, this blog provides an update on the subject.

The BBC is in ongoing talks with Eos – the new collecting society for Welsh language musicians and composers - to discuss the current dispute over royalties paid for music played on Radio Cymru. There has been some useful progress but I suspect discussions still have some way to go.

In the meantime, I wanted to explain where we are and why resolving the issue is proving so challenging.

The heart of the dispute dates back to a new policy on rights that was introduced in 2006 by the Performing Rights Society (PRS). It led to a very significant cut in the income that Welsh language composers and artists received for having their music played in public venues like shops and clubs (these are called 'public performance rights').

PRS' decision to cut these rates – they said less Welsh language music was being played in public than they had previously estimated - had nothing whatsoever to do with the BBC. But Eos is now seeking to secure a substantially improved deal for an entirely different set of rights: the so-called 'broadcasting rights' that are funded by the BBC.  For Eos and its members, an improved broadcasting deal would at least offset some of the losses they experienced as a result of PRS' policy change in 2006.

And this brings us to the crux of the current dispute. Everybody agrees that Welsh language music is important. Everybody agrees that we need to find a way to help improve support for new Welsh language music. The real question is how we do this and, importantly, what scale of support the BBC is able to provide.

A number of letters we have received over recent days - from groups like Cymdeithas yr Iaith and Cylch yr Iaith - have spoken out in support of the musicians and have urged the BBC to settle the matter urgently. These letters often demand that the BBC must pay a fair rate for the music.

There is only one right answer to that plea: of course we will pay a fair rate.

The BBC has always been committed to agreeing a fair deal - and it is why we have made a series of unprecedented offers to Eos that we believe fairly reflect both the commercial and cultural value of this important repertoire. We have also offered a process of formal mediation, led by a jointly-appointed independent expert.

But it is also important to stress that, in such a challenging financial climate for all public bodies, our continued support for Welsh language music cannot be secured at any price. We cannot fix some of the big challenges facing Welsh language music single-handedly, and it would not be a reasonable use of the licence fee to do so.

So I want to assure everybody that is concerned about the current dispute that despite some of the more garish headlines over recent days there is no lack of sensitivity or understanding of the issues within the BBC, either here in Wales or in London.

We want to settle this matter and we want to get back to doing what we do best: championing and supporting music in all its forms. But we can only do this with a deal that is reasonable and sustainable - a deal that is fair to musicians and licence-fee payers alike.

That is what everybody is focused on achieving.

 

Fy enw i yw Rhodri Talfan Davies a fi yw Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales. Mae’r blog hwn yn rhoi diweddariad ar yr anghydfod presennol gyda cherddorion a chyfansoddwyr sy’n effeithio ar ein rhaglenni ar BBC Radio Cymru, yng ngolau rhai o’r straeon newyddion sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar ar y pwnc.

Mae’r BBC mewn trafodaethau sy’n parhau gydag Eos – y gymdeithas casglu newydd ar gyfer cerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg – i drafod yr anghydfod presennol ynglŷn â breindaliadau am y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar Radio Cymru. Cafwyd rhai datblygiadau defnyddiol ond rwy’n amau bod dal peth trafod eto i’w wneud.

Yn y cyfamser, roeddwn i eisiau egluro lle ry’n ni arni a pham bod datrys y mater yn profi mor heriol.

Mae gwraidd yr anghydfod yn dyddio nôl i bolisi newydd ar hawliau a gyflwynwyd yn 2006 gan y Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS). Arweiniodd hynny at doriad sylweddol iawn yn yr incwm a dderbyniai cyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg am chwarae eu cerddoriaeth mewn llefydd cyhoeddus fel siopau a chlybiau (mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘public performance rights’).

Nid oedd penderfyniad y PRS i dorri’r cyfraddau hyn yn ddim i’w wneud gyda’r BBC o gwbl – fe ddywedodd y PRS bod cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae yn llai aml yn gyhoeddus na’r hyn a amcangyfrifwyd yn wreiddiol. Ond mae Eos nawr yn ceisio sicrhau cytundeb llawer gwell ar gyfer set o hawliau cwbl wahanol – sef yr ‘hawliau darlledu’ sy’n cael eu hariannu gan y BBC. I Eos a’i aelodau, byddai cytundeb darlledu gwell o leia yn lleddfu rhywfaint ar y colledion a brofwyd ganddyn nhw o ganlyniad i newid polisi’r PRS yn 2006.

Daw hyn â ni at wraidd yr anghydfod presennol. Mae pawb yn cytuno bod cerddoriaeth Gymraeg yn bwysig. Mae pawb yn cytuno bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o helpu i wella’r gefnogaeth ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg newydd. Y cwestiwn mawr yw sut ry’n ni’n gwneud hyn, ac yn bwysicach, faint o gefnogaeth all y BBC ei darparu.

Mae nifer o’r llythyron a dderbyniwyd yn ystod y diwrnodau diwetha – gan fudiadau fel Cymdeithas yr Iaith a Cylch yr Iaith – wedi bod yn gefnogol o’r cerddorion ac wedi annog y BBC i setlo’r mater ar frys. Yn aml, mae’r llythyron yma yn mynnu y dylai’r BBC dalu pris teg am y gerddoriaeth. Un ateb sydd i hynny: wrth gwrs y gwnawn ni dalu pris teg.

Mae’r BBC wastad wedi bod yn ymrwymedig i gytuno ar gytundeb teg – a dyna pam ry’n ni wedi gwneud cyfres o gynigion digynsail i Eos, sydd yn ein barn ni yn adlewyrchu’n deg gwerth masnachol a diwylliannol y repertoire pwysig yma. Ry’n ni hefyd wedi cynnig proses gymodi ffurfiol o dan arweiniad arbenigwr annibynnol a benodwyd ar y cyd.

Ond mae’n bwysig hefyd ein bod yn pwysleisio, mewn cyfnod ariannol mor anodd i bob corff cyhoeddus, na all ein cefnogaeth barhaus i gerddoriaeth Gymraeg gael ei diogelu ar unrhyw bris. Gallwn ni, ar ben ein hunain,  ddim datrys rhai o’r sialensau mawr sy’n wynebu cerddoriaeth Gymraeg, ac ni fyddai’n ddefnydd priodol o arian y drwydded i wneud hynny.

Felly dwi am sicrhau pawb sy’n pryderu am yr anghydfod presennol nad oes diffyg sensitifrwydd na dealltwriaeth tuag at y materion hyn o fewn y BBC, naill ai fan hyn yng Nghymru neu yn Llundain, er gwaetha rhai o’r penawdau lliwgar yn ystod y diwrnodau diwetha.

Ry’n ni eisiau datrys y mater ac ry’n ni eisiau dychwelyd i wneud yr hyn ry’n ni’n ei wneud orau: hybu a chefnogi cerddoriaeth yn ei holl arddulliau. Ond gallwn ni ond gwneud hynny gyda chytundeb sy’n rhesymol a chynaliadwy - cytundeb sy’n deg i gerddorion a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded.

Dyma beth mae pawb am ei gyflawni.

Tagged with:

Loading...

More Posts

Previous

Next