Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Mathemateg > Rhif > Pwerau ac israddau - Uwch

Mathemateg

Pwerau ac israddau - Uwch

  • Tudalen
  • 1
  • 2
Blaenorol

Yn y Darn Adolygu hwn rydyn ni’n mynd i edrych ar y ffurf indecs safonol, pwerau sero, pwerau negatif a phwerau ffracsiynol.

Ffurf indecs safonol

Adio a thynnu rhifau yn y ffurf indecs safonol

Newidia nhw’n rhifau cyffredin, gwna’r cyfrifo, wedyn eu newid yn ôl os wyt ti angen yr ateb yn y ffurf safonol.

Enghraifft 1

4.5 × 104 + 6.45 × 105

= 45,000 + 645,000

= 690,000

= 6.9 × 105

Lluosi a rhannu rhifau yn y ffurf safonol

Yma gelli ddefnyddio’r rheolau ar gyfer lluosi a rhannu pwerau. Cofia’r rheolau hyn:

  • i luosi pwerau, rwyt ti’n adio, e.e. 105 × 103 = 108
  • i rannu pwerau rwyt ti’n tynnu, e.e. 105 ÷ 103 = 102

Enghraifft 2

Symleiddia (2 × 103) × (3 × 106)

Datrysiad

Lluosa 2 â 3, ac adia’r pwerau 10:

(2 × 103) × (3 × 106) = 6 × 109

Cwestiwn

Symleiddia (36 × 105) ÷ (6 × 103).

Ateb

Wyt ti wedi cael 6 ×102?

Os na chefaist ti’r ateb cywir, cofia fod angen cyfrifo 36 ÷ 6 yn gyntaf, yna tynnu’r pwerau (gan ein bod yn rhannu), fel hyn:

(36 x 105) ÷ (6 × 103) = (36 ÷ 6) x (105 ÷ 103) = 6 ×102

  • Tudalen
  • 1
  • 2
Blaenorol

Cyngor

llyfrau

Ar ôl TGAU

Dyma rhai syniadau beth fedri di ei wneud ar ôl TGAU.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.