Hafan > Llenyddiaeth Gymraeg > Uned 3 - Tasgau dan reolaeth > Straeon byrion
Llenyddiaeth Gymraeg
Straeon byrion
Ar gyfer y rhan yma o’r gwaith cwrs, byddi di’n astudio DWY stori fer ar thema benodol. Fe fydd y ddwy stori yn dod o ddwy gyfrol o straeon byrion, sef 20 Stori Fer Cyfrol 1, ac 20 Stori Fer Cyfrol 2. Ar gyfer y gwaith, bydd yr athro/athrawes yn gosod cwestiwn arbennig, ac yna fe fydd gennyt ti tua phythefnos i baratoi ar ôl i ti dderbyn y cwestiwn.
Yn ystod y pythefnos yma, dylet ti fynd ati i baratoi nodiadau manwl ar y straeon yn seiliedig ar gwestiwn sydd wedi cael ei roi. Cofia dy fod yn ceisio cyfrannu at ateb y cwestiwn ymhob paragraff. Mae hawl gennyt ti i fynd â thudalen A4 o nodiadau i mewn i’r arholiad, ond bydd yn rhaid i’r nodiadau yma gael eu casglu gyda’r gwaith ar derfyn yr arholiad.
Dylai’r nodiadau fod yn glir a chryno. Dylen nhw fod yn nodi beth wyt ti’n mynd i’w ysgrifennu ymhob paragraff, a dylen nhw fod yn cynnwys nodiadau ar y cymeriadau a’r themâu ynghyd â’r arddull.
Bydd y gwaith yn cael ei farcio allan o 60. Bydd 40 marc yn cael ei roi i bethau fel trafod y cymeriadau a’r themâu sydd yn y gwaith. Bydd yr 20 marc arall yn cael ei roi am drafod y ffurf, a sut mae’r arddull yn cyfrannu at y stori.
Cyngor
Ystyria pam wyt ti’n cael trafferth a beth yw’r ateb i’r broblem.
BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.