Llenyddiaeth Gymraeg

Drama

Sgript

Mae trefn arbennig i ddeialog mewn sgript sy’n wahanol i ddeialog mewn stori.

Mewn sgript mae angen:

  • rhoi enw’r cymeriad mewn colofn i lawr ochr chwith y dudalen
  • rhoi priflythyren ar ddechrau’r sgwrs, ee:
    • Siôn: Ble wyt ti wedi bod yn cuddio?
    • Siân: Yn y twll dan stâr. Pam?
  • atalnodi’n gywir i ddangos ystyr a phwyslais, ee:
    • Siôn: Arswyd y byd! Wel, wel! Ble?
  • iaith sgwrs lafar naturiol sy’n llifo’n rhwydd
  • rhoi cyfarwyddiadau llais a symudiadau mewn cromfachau i ddod â’r sgript yn fyw, ee:
    • Siôn: (yn llawn syndod) O, ie?
    • Siân: O, na! (gan ysgwyd ei phen)

Pwysig!

Cofia nad oes angen y canlynol mewn sgript:

  • Dyfynodau " "
  • Berfau dweud, ee meddai, dywedodd

Cyngor

llyfrau

Problemau gyda gwaith ysgol?

Ystyria pam wyt ti’n cael trafferth a beth yw’r ateb i’r broblem.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.