Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Llenyddiaeth Gymraeg

Drama

Blaenorol

Tasg 2 - Drama

Cyn dechrau cynllunio’r dasg greadigol bydd yn rhaid i ti ddarllen y ddrama/gwylio’r ddrama ar fideo sawl gwaith er mwyn deall y stori a’r cymeriadau.

Bydd rhaid i ti ysgrifennu ymson un o'r cymeriadau, dyddiadur un o'r cymeriadau, llythyr gan un o'r cymeriadau a golygfa ychwanegol.

I wneud hyn yn dda, rhaid i ti adnabod y cymeriadau'n drylwyr. Rhaid cofio sut mae'r cymeriad dan sylw'n ymateb i gymeriadau eraill a sut mae’r cymeriadau eraill yn ymateb i'r cymeriad rwyt ti wedi'i ddewis.

  • Cofia gasglu gwybodaeth fanwl am y cymeriadau cyn dechrau ysgrifennu.
  • Cofia hefyd ysgrifennu yn dy eiriau dy hun, gan gynnwys brawddegau allweddol (pwysig) sydd yn y ddrama.
  • Ystyria sut berthynas sydd rhwng cymeriadau a sut y gall y berthynas newid.
  • Cofia gadw at naws y ddrama wreiddiol.

Gallet ddefnyddio tabl fel hwn i gasglu gwybodaeth am y cymeriadau:

Geiriau Pwysig – Cymeriad 1Geiriau Pwysig – Cymeriad 2

Cofia hefyd – mae rhai pethau pwysig i'w cofio wrth ysgrifennu'r gwahanol ffurfiau:

YmsonDyddiadur
  • Siarad yn y person cyntaf - fi sy’n siarad
  • Sut rydw i’n teimlo
  • Edrych yn ôl i'r gorffennol
  • Edrych ymlaen i'r dyfodol
  • Iaith anffurfiol/tafodiaith
  • Siarad yn y person cyntaf - fi sy’n siarad
  • Nodi dyddiad ar ddechrau’r gwaith
  • Sut dw i’n teimlo
  • Edrych yn ôl i'r gorffennol
  • Edrych ymlaen i'r dyfodol
  • Gellir defnyddio iaith anffurfiol/tafodiaith

LlythyrDeialog/sgript
  • Cyfeiriad a dyddiad ar y dechrau
  • Cyfarchiad i ddechrau
  • Annwyl…
  • Trefnu’r gwaith
  • Edrych yn ôl i'r gorffennol
  • Edrych ymlaen i'r dyfodol
  • Sôn am deimladau
  • Gellir defnyddio iaith anffurfiol/tafodiaith
  • Gosod enwau'r cymeriadau ar ochr y dudalen
  • Nid oes angen dyfynodau
  • Defnyddio iaith y cymeriadau yn y ddrama
  • Edrych yn ôl i'r gorffennol
  • Edrych ymlaen i'r dyfodol
  • Gellir defnyddio iaith anffurfiol/tafodiaith
Blaenorol

Cyngor

llyfrau

Problemau gyda gwaith ysgol?

Ystyria pam wyt ti’n cael trafferth a beth yw’r ateb i’r broblem.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.