Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Llenyddiaeth Gymraeg

Y Coed

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Y Gerdd

'Y Coed' gan Gwenallt

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwyYn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.

Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn,Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd na wrn.

Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw,Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw.

Ni chlywem ni na chlychau’r Eglwys na Mŵesin y Mosg,Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.

Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân,Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân.

Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac AmânFforestydd o goed i gofio?

Ond ni allwn ni gondemnio’r Natsïaid na’r Iddewon ychwaithCanys fe droesom o’r awyr Dresden yn un uffern faith;

A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.

O’r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.

A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a’r rhocedi yn fwy,A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.

A phan ddaw’r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,Ni ellir rhifo’r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw'r Efengyl yn ei oes.

Daw’r tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.Ond coedwig y marwolaethau’n aros a fyddant hwy, er hyn.

Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint,Fe wêl y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.

© Y Lolfa

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Cyngor

llyfrau

Ar ôl TGAU

Dyma rhai syniadau beth fedri di ei wneud ar ôl TGAU.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.