Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Llenyddiaeth Gymraeg > Uned 1 - Nofel a Barddoniaeth > Barddoniaeth > Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed

Llenyddiaeth Gymraeg

Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Y Gerdd

'Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed' gan Dic Jones

Deunaw oed yn ei hyder, - deunaw oedYn ei holl ysblander,Dy ddeunaw oed boed yn bêr,Yn baradwys ddibryder.

Deunaw – y marc dewinol, - dod i oedY dyheu tragwyddol,Deunaw oed, y deniadol,Deunaw oed nad yw’n dod ‘nôl.

Deunaw oed, - dyna adeg, - deunaw oedNi wêl ond yr anrheg,Deunaw oed dy i’engoed teg,Deunaw oed yn ehedeg.

Echdoe’n faban ein hanwes, - ymhen dimYn damaid o lances,Yna’r aeth y dyddiau’n rhes,Ddoe’n ddeunaw, heddiw’n ddynes.

Deunaw oed yw ein hedyn, - deunaw oedGado nyth y ‘deryn,Deunaw oed yn mynd yn hŷn,Deunaw oed yn iau wedyn.

Deunaw oed ein cariad ni, - deunaw oedEin hir ddisgwyl wrthi,Deunaw oed yn dynodiDeunaw oed fy henoed i.

© Y Lolfa

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Cyngor

llyfrau

Ar ôl TGAU

Dyma rhai syniadau beth fedri di ei wneud ar ôl TGAU.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.