Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Llenyddiaeth Gymraeg

Dihirod Dyfed - Wil Cefncoch

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Wil Cefncoch

Un o ffilmiau’r gyfres Dihirod Dyfed ydy Pechod Mary Prout a ysgrifennwyd gan Bethan Phillips ac sydd wedi ei seilio ar nifer o lofruddiaethau a ddigwyddodd yng ngorllewin Cymru dros gan mlynedd yn ôl. Cyhoeddwyd y llyfr yn dilyn llwyddiant y gyfres deledu.

Rhan 1

Cymharu’r ffilm ‘Wil Cefncoch’ gyda’r llyfr ‘Dihirod Dyfed’

FfilmLlyfr

Wil Cefncoch a Henry Jones - dau botsiwr - yn cerdded drwy goedwig Dolfor. Dau gipar - Joseph Butler a James Morgan - yn aros amdanynt. Troed Henry Jones yn mynd yn sownd mewn trap, ond llwydda i ddianc cyn i’r ciperiaid gyrraedd.

  • Nid oes sôn am yr olygfa yma yn y llyfr. Mae’r olygfa wedi ei chynnwys yn y ffilm i ddangos bod y werin, y bobl gyffredin, yn potsio am eu bod yn dlawd a llwglyd.
  • Sylwa at y tensiwn yn yr olygfa - tywyllwch coed Dolfor, sŵn traed y potswyr, cri tylluan a’r gerddoriaeth Americanaidd yn cyflymu’n llawn cyffro.

Golygfa mewn tafarn gyda chriw yn trafod yr etholiad. Daw’r ciperiaid i’r dafarn i rybuddio’r werin i beidio â photsian ar dir Trawsgoed.

  • Dydy’r olygfa ddim yn y llyfr, ond ceir sôn bod Edward Vaughan, perchennog stad Trawsgoed yn sefyll etholiad.
  • Golygfa effeithiol i ddangos y gwrthdaro rhwng y tlawd a’r cyfoethog, y Cymry yn cael eu bygwth gan Sais, sef y prif gipar Joseph Butler. Dyma’i eiriau;

    “I’ll blast all you vermin from those woods”

Cefncoch - bwthyn Wil ble mae Bet Morgan, cariad Wil, yn trin y briw a gafodd Henry Jones pan aeth ei droed yn sownd yn y trap.

  • Nid yw’r olygfa yn y llyfr. Y sgwrs rhwng y criw yn adlewyrchu caledi’r cyfnod. Y werin yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Chwarae’n troi’n chwerw. Wil Cefncoch a’r ddau frawd Henry a Morgan Jones yn potsio yng Nghoed Dolfor. Wil yn saethu Joseph Butler y prif gipar yn farw.

  • Y ffilm a’r llyfr yr un fath. Y cipar James Morgan yn dal y potsiwr Morgan Jones. Wrth i’r prif gipar Joseph Butler nesáu atynt, tania Wil y gwn gan saethu Butler yn farw gelain. Wil Cefncoch a Henry Jones yn dianc nerth eu traed.

Wil Cefncoch yn cyrraedd tŷ ei gyfaill Tom Joseph, y trwsiwr clociau. Sylwch fod tician di-baid y clociau yn symbol fod amser yn erbyn Wil. Pledia Wil am help Tom Joseph gan ddatgan mai dim ond y crocbren sy’n ei aros.

  • Ceir sôn am Tom Joseph y trwsiwr clociau o Drefenter yn y llyfr:

    “Llwyddodd Tom Joseph i ddod o hyd i lu o guddfannau i Wil ac i sicrhau ei fod yn symud yn gyson o un man i’r llall.”

Eira’n drwch dros y wlad a phlismon yn hoelio arwydd yn cynnig £100 o wobr am Wil.

  • Mae’r llyfr yn dweud bod plismyn o bob rhan o Geredigion wedi cael eu symud i ardal y Trawsgoed.
  • Fe wnaeth Edward Vaughan gynnig gwobr o ganpunt i unrhyw un fyddai’n bradychu Wil Cefncoch. Eglura’r llyfr fod Edward Vaughan wedi cynnig cymaint o arian gan ei fod yn gynddeiriog. Yr oedd wedi colli’r etholiad a cholli ei brif gipar, a hynny ar yr un noson.

Plismyn yn cyrraedd Cefncoch ac yn holi mam Wil sef Leusa Richards.

  • Dydy hyn ddim yn y llyfr. Cafodd ei ychwanegu at y ffilm i ddangos poen Leusa Richards am ei mab a gofid Bet am ei chariad.

Yr heddlu yn stopio cart a cheffyl Tom Joseph. Ceisia’r heddlu demtio Tom i ddatgelu gwybodaeth am Wil, drwy ddangos y poster ‘£100 Reward’.

  • Eglura’r llyfr, pan fyddai’r heddlu’n agosáu, y byddai Tom Joseph yn symud Wil drwy ei guddio mewn casys clociau hir a’i gludo ar gefn ei gart.

Rhan 2

Cymharu’r ffilm ‘Wil Cefncoch’ gyda’r llyfr ‘Dihirod Dyfed’

FfilmLlyfr

Golygfa’r felin. Bet Morgan yn mynd â dillad glân i Wil i’r felin. Bet yn tynnu coes Wil ynghylch y disgrifiad digrif ohono ar boster yr heddlu:

“Coesau tenau hirion, gwargam a thraed lletchwith.”

Mae’r heddlu’n cyrraedd ac yn chwilio pob twll a chornel.

  • Mae’r llyfr yn sôn fod Wil wedi cael lloches gan felinydd. Cyrhaeddodd yr heddlu a bu’n rhaid i Wil guddio mewn man cyfyng y tu ôl i’r peiriannau. Fel yn y ffilm, gofynnodd y sarjant i’r melinydd stopio’r olwyn ond newidiodd ei feddwl pan atebodd y melinydd y byddai’n mynnu tâl am ei golled.
  • Nid oes sôn yn y llyfr fod Bet Morgan ar gyfyl y felin. Ychwanegwyd hyn a’r ffaith iddi orfod cuddio dillad Wil i fyny ei ffrog gan wneud iddi ymddangos yn feichiog er mwyn cyffro.

Yr heddlu yn parhau i chwilio gan fynd i’r dafarn i ddangos y posteri £100 yn y gobaith y byddai rhywun yn cael ei demtio.

  • Cyfeiria’r llyfr bod yr wythnosau wedi mynd yn fisoedd ac mai ofer fu pob ymdrech i ddal Wil. Cyhoeddwyd posteri newydd sbon a gosodwyd hysbysebion yn y papurau newydd yn Ionawr 1869.
  • Y ffilm a’r llyfr yn dangos fod pobl yr ardal yn driw a theyrngar i Wil.

Dilyn Tom Joseph a’i gart i’w dŷ. Wil yn cuddio yn y gwely efo gwraig Tom sydd newydd gael babi.

  • Yn ôl y llyfr:
  • “Un tro, bu’n rhaid i Wil guddio o dan ddillad gwely lle gorweddai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn.”
  • Yma, mae’r ffilm yn wahanol i’r llyfr, gan mai Martha, gwraig Tom Joseph sydd newydd gael babi yn y ffilm. Ceir hiwmor yn y ddeialog i ysgafnhau’r olygfa yn y ffilm wrth i Martha ddweud:

    “Dyna’r tro diwethaf i ti rannu fy ngwely i Wil Richards.”

    Tom Joseph yn ateb:

    “A’r tro cyntaf hefyd gobeithio!”

Wil Cefncoch yn gorfod cysgu allan gan ei bod yn rhy beryglus i unrhyw un fentro rhoi lloches iddo.

  • Llyfr yn sôn iddo guddio mewn capeli ac mai prin oedd y rhai a wrthododd roi llety iddo er gwaetha’r perygl petaent yn cael eu dal yn cynorthwyo troseddwr.

Bwthyn Cefncoch a Leusa Richards, mam Wil, Bet Morgan, ei gariad a Tom Joseph, ei gyfaill yn poeni amdano. Mae’r tri yn sôn y bydd yn rhaid iddo ddianc dros y môr ond yn pendroni sut gan fod yr heddlu’n cadw llygad barcud ar bob man.

  • Noda’r llyfr i Wil lwyddo i gyrraedd porthladd Lerpwl gyda chymorth cyfeillion.“Yn ôl un traddodiad, hwyliodd o bentref bach Aberarth, ac wedi cyrraedd Lerpwl cludwyd ef ar fwrdd llong a oedd ar fin hwylio i America wedi ei guddio mewn casgen.”

    “Yn ôl traddodiad arall, dihangodd o Sir Aberteifi wedi ei wisgo fel dynes a theithio i Lerpwl mewn cerbyd.”

Dau blisman yn gwylio’r ffordd. Llwyth o wair ar gart a cheffyl Tom yn cael ei archwilio. Bet a ‘hen wraig’ sef Wil Cefncoch yn llwyddo i ddianc o flaen trwynau’r heddlu!

  • Mae’r llyfr yn nodi ei bod yn ddirgelwch hyd heddiw sut yn union y dihangodd Wil. Nid oes manylion ynglŷn â phwy oedd y cyfeillion a wnaeth ei helpu.

Y cariadon Wil Cefncoch a Bet Morgan yn ffarwelio.

  • Nid yw’r olygfa yn y llyfr dim ond y ffaith bod Wil Cefncoch wedi cyrraedd America’n ddiogel yng ngwanwyn 1869.
  • Mae’ llyfr yn adrodd hanes Bet sef Elisabeth Morgan o Bontrhydfendigaid a’i bod wedi dilyn ei chariad ac ymfudo i America yn 1872. Roedd hi’n 26 oed, fe wnaeth Wil ei chyfarfod yn y porthladd a phriododd y ddau yn fuan yn Ohio.

Geiriau ar y sgrîn:

“Fe briododd Wil Richards a Bet Morgan yn Ohio ym 1872. Bu ef farw yn 1921 a Bet ym 1937. Fe’u claddwyd ym mynwent Oak Hill.”

  • Mae’r llyfr yn rhoi llawer iawn mwy o wybodaeth a sylw i’r hyn a ddigwyddodd i Wil Cefncoch ar ôl iddo gyrraedd America.
  • Ymgartrefodd Wil i ddechrau yn Horeb, Ohio. Gweithiodd fel gwas yn crwydro o fferm i fferm ond roedd yn wyllt, yn yfed yn drwm, yn colli ei dymer ac yn ymddwyn yn afresymol.
  • Gweithiodd ar fferm Cymraes ond bu’n rhaid iddo adael ar ôl ymosod â chyllell ar forwyn o’r Iwerddon a oedd yn ei herio am ei Saesneg carpiog.
  • Cafodd waith fel labrwr gyda’r Jefferson Furnace Company.
  • Pan gyrhaeddodd Bet Morgan, bu’n ddylanwad da ar Wil. Newidiodd Wil ei enw i David D. Evans.
  • Prynodd fferm fechan yn ardal Oak Hill a dechreuodd fusnes glo.
  • Chawson nhw ddim plant, ond mabwysiadu bachgen bach amddifad. Bu Wil yn dad cariadus iddo.
  • Bu farw Wil yn 77 oed yn 1921.
  • Treuliodd Wil hanner can mlynedd yn America ond ni allodd erioed anghofio’n llwyr am yr hyn ddigwyddodd i Joseph Butler yng Nghoed Dolfor. Yng ngeiriau’r llyfr

    “...yn ystod y blynyddoedd maith a dreuliodd yn America roedd ganddo ddryll wrth law yn wastad rhag ofn i rywun, rywbryd geisio’i ddal a’i ddwyn yn ôl i dalu’r pris am yr hyn a wnaeth.”

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Cyngor

llyfrau

Ar ôl TGAU

Dyma rhai syniadau beth fedri di ei wneud ar ôl TGAU.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.