Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hanes

Cyflwyniad

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Cyflwyniad

Mae’n bwysig dy fod yn deall y cefndir yma er mwyn i ti allu deall yr Uned ar yr Almaen yn iawn, ond ni fydd cwestiwn ar y wybodaeth yma yn yr arholiad. Felly nid oes angen i ti ddysgu’r wybodaeth - dim ond ei deall.

  • Ar ôl dod i fodolaeth ym 1871, roedd Ymerodraeth yr Almaen yn cael ei rheoli gan ymerawdwr cryf - y Kaiser [Kaiser: Brenin yr Almaen - Kaiser Wilhelm II, Wilhelm II. Roedd gan y wlad senedd, sef y Reichstag [Reichstag: Yr enw ar Senedd yr Almaen., ond pwerau cyfyngedig oedd gan y rhai oedd wedi eu hethol yn aelodau ohoni. Cafodd yr Almaen ei rheoli’n gadarn gan y Kaiser a’i weinidogion.
  • Ym 1914 dechreuodd yr Almaen ymladd yn erbyn Prydain, Ffrainc a Rwsia.
  • Erbyn Medi 1918, bu’n rhaid i Gadfridogion yn Almaen dderbyn eu bod wedi colli’r Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth hyn fel sioc fawr i’r wlad. O ganlyniad bu wythnosau o drais wrth i’r Almaenwyr fynegi eu dicter.
  • 11 Tachwedd 1918 - Yr Almaen yn arwyddo Cadoediad i ddod â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben.
  • 19 Ionawr 1919 - Etholiadau ar gyfer y llywodraeth newydd.
  • 06 Chwefror 1919 - Llywodraeth newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Weimar. Arlywydd [Yr Arlywydd: Cyfateb i Frenin/Frenhines ym Mhrydain. - Ebert; Canghellor [Y Canghellor: Cyfateb i Brif Weinidog ym Mhrydain. - Scheidemann. Yr Almaen nawr yn Weriniaeth Ddemocrataidd. Roedd democratiaeth wedi ei gorfodi ar yr Almaenwyr.
  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.