Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hanes

Arweinwyr y Natsïaid

Arweinwyr y Natsïaid

EnwCyfrifoldebEi dynged
Joseph Goebbels (1897–1945)Gweinidog Propaganda, 1933–45Marw gyda’i wraig a’i deulu yn y byncer gyda Hitler yn Berlin, 1 Mai 1945.
Hermann Goering (1893–1946)Gweithredodd yn erbyn Rohm ym 1934, ar Noson y Cyllyll Hirion. Ym 1935 daeth yn gyfrifol am y llu awyr (y luftwaffe). Ym 1936, daeth yn gyfrifol am y Cynllun Pedair Blynedd.Sefyll ei brawf ym Mhrofion Nuremberg – euog, ei gosb – crogi. Cyflawni hunanladdiad (cymryd gwenwyn) tra roedd yn aros i gael ei ddienyddio.
Heinrich Himmler (1900–45)Pennaeth yr SS. Cyfrifol am weithredu’r Ateb Terfynol – sefydlu gwersylloedd lladd.Cael ei arestio ar 23 Mai 1945 - lladd ei hun.
Reinhard Heydrich (1904–42)Cyfrifol am y Gestapo (heddlu cudd, ysbiwyr). Ym 1941, daeth yn amlwg am ei waith yn trefnu’r Ateb Terfynol.Cael ei ladd ym Mhrâg, ym mis Mehefin 1942.
Rudolf Hess (1894–1987)Dirprwy arweinydd y Blaid Natsïaidd.Cael ei garcharu am oes am droseddau rhyfel.
Dr Robert Ley (1890–1945)Pennaeth Ffrynt Llafur yr Almaen. Sefydlodd y cynllun Cryfder trwy Lawenydd.Lladd ei hun yn ystod Profion Nuremberg.
Albert Speer (1905–81)Gweinidog ailarfogi a chynhyrchu rhyfel ym 1942Cael ei garcharu am 20 mlynedd am droseddau yn erbyn heddwch a dynoliaeth.
Ernst Röhm (1887–1934)Pennaeth yr SACael ei ladd ar Noson y Cyllyll Hirion.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.