Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hanes

Yr Ail Ryfel Byd

  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Sut yr effeithiwyd ar fywyd yn ystod blynyddoedd y rhyfel?

Bywyd yn ystod y blynyddoedd cynnar, 1939–41

Yr effaith gychwynnol

Dyma gyfnod llwyddiannus y rhyfel i'r Almaen

  • Llwyddiant milwrol - Tactegau'r Blitzkreig yn gwthio'r fyddin ymlaen i Wlad Pwyl ym 1939, ac yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Denmarc, Norwy a Ffrainc ym 1940.
Map Blitzkreig
  • Y rhyfel yn cael dim effaith ar y boblogaeth sifil (sifiliaid)
Dau ddyn a chi yn sefyll mewn stryd yn Berlin, 1939

Berlin, 1939

  • Yr Almaen yn cymryd yr adnoddau o diroedd y gwledydd roedden nhw’n eu goresgyn
  • Gweithwyr tramor yn gweithio yn ffatrïoedd yr Almaen

Ond cofia, nid oedd pawb yn cefnogi'r rhyfel, gan eu bod yn cofio erchylltra’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dogni

  • Dogni bwyd - Roedd hyn yn sicrhau bod pawb yn bwyta diet cytbwys. Roedd llawer yn bwyta hyd yn oed yn well yn ystod y rhyfel. Roedd nwyddau artiffisial yn cael eu defnyddio, ee coffi ersatz o hadau haidd a mes.
  • Tachwedd 1939 - Dechrau dogni dillad
  • Hawl defnyddio dŵr cynnes ddwywaith yr wythnos – ffordd o arbed tanwydd
  • Dogni sebon
  • Dim papur tŷ bach

Canlyniad dogni oedd bod marchnad ddu lewyrchus wedi datblygu, er mwyn cyfnewid nwyddau.

Ym mis Medi 1940, cafodd trefniadau eu gwneud i symud plant o Berlin oherwydd cyrchoedd awyr y Cynghreiriaid. Nid oedd yn gynllun llwyddiannus iawn, gan i nifer fawr aros yn Berlin.

Y newid yn rôl menywod

Ceisiodd y Natsïaid:

  • gynyddu'r gyfradd geni plant, ond heb fawr o lwyddiant
  • cael menywod i fynd allan i weithio, ond heb fawr o lwyddiant.

Roedd propaganda'r 1930au wedi bod yn llwyddiannus. Felly roedd rhaid trefnu ymgyrch bropaganda newydd. Dioddefodd iechyd menywod yn ystod y rhyfel oherwydd:

  • prinder bwyd
  • bomio
  • poeni am eu plant, a'u gwŷr oedd yn ymladd.

1943 – Ceisiwyd gorfodi 3 miliwn o fenywod 17–45 oed i fynd i weithio. Dim ond miliwn ohonynt wnaeth. Dyma un rheswm dros golli'r rhyfel. Roedd gweithwyr tramor yn cynrychioli 21 y cant o weithlu'r Almaen.

Y defnydd o bropaganda ar y ffrynt cartref

Pwrpas propaganda oedd cynnal ysbryd y bobl a’u cefnogaeth i’r rhyfel. Cyhoeddwyd bod yr Almaenwyr wedi cyfrannu 1.5 miliwn o eitemau ffwr a 67 miliwn o eitemau gwlân i sicrhau cyflenwad digonol o ddillad cynnes i’r milwyr ar y ffrynt dwyreiniol. Roedd y propaganda yn chwarae ar ofn yr Almaenwyr o Gomiwnyddiaeth.

Roedd y propaganda hefyd yn perswadio'r bobl:

  • i arbed tanwydd
  • i weithio'n galetach.
  • Tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.