Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Hanes > Datblygiad UDA 1929-2000 > Y prif ddylanwadau ar fywyd rhwng 1929 a 1945

Hanes

Y prif ddylanwadau ar fywyd rhwng 1929 a 1945

Blaenorol

Beth oedd y prif ddylanwadau ar fywyd yn America yn y cyfnod rhwng 1929-1945?

Dirywiad yn yr economi

  • Cwymp Wall Street

Roedd y 1920au wedi bod yn gyfnod llwyddiannus i bobl UDA. O ganlyniad i’r ffyniant economaidd, roedd gan nifer o bobl arian i brynu nwyddau newydd fel car a radio. Ond ym 1929 digwyddodd Cwymp Wall Street:

  1. Roedd pobl yn nerfus bod y farchnad stoc yn mynd i fethu
  2. Roedd pobl yn gwerthu eu cyfranddaliadau (shares)
  3. Dydd Mawrth Du - 29 Hydref 1929 - 16.5 miliwn o gyfranddaliadau yn cael eu gwerthu
  4. Erbyn diwedd 1929 roedd gwerth yr holl gyfranddaliadau wedi cwympo $40,000 miliwn

Achosion y Dirwasgiad Mawr

  • UDA yn rhanedig – 5 y cant o’r bobl yn berchen ar 33 y cant o arian y wlad
  • Hen ddiwydiannau a'r diwydiant ffermio wedi dioddef yn y 1920au
  • Llywodraeth y Gweriniaethwyr yn credu mewn laissez faire [Laissez-faire (marchnad rydd): Y wladwriaeth yn rhoi rhyddid i'r economi.
  • Llai o wledydd yn prynu nwyddau gan UDA oherwydd bod trethi uchel arnyn nhw
  • Gormod o nwyddau'n cael eu cynhyrchu, a neb yn eu prynu
  • Pobl yn ceisio eu lwc ar y farchnad stoc a phobl dlawd yn cael benthyg gormod o arian i wneud hynny

Ymdrechion cynnar y Gweriniaethwyr i ddelio â’r dirwasgiad (1930au)

  1. Roedd pobl yn galw ar yr Arlywydd, Herbert Hoover, i helpu ond barn Hoover oedd y dylai pobl allu gofalu amdanyn nhw eu hunain ac na ddylen nhw ddisgwyl elusen na nawdd cymdeithasol gan y Llywodraeth. Ni roddodd lawer o gymorth i’r bobl oedd yn ddi-waith.
  2. Collodd llawer o bobl eu cartrefi ac felly cafodd trefi sianti eu hadeiladu – Hoovervilles [Hoovervilles: Trefi sianti a adeiladwyd gan y bobl dlawd yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Y bobl roddodd yr enw yma ar y trefi oherwydd eu bod yn beio Hoover am eu sefyllfa.. Serch hynny, ceisiodd Hoover helpu rhywfaint.
  3. Ym 1932 rhoddodd Hoover $4 miliwn i’r taleithiau i agor ceginau cawl.
  4. Creodd swyddi i adeiladu’r Hoover Dam.
  5. Ym 1932 rhoddodd $300 miliwn i’r taleithiau er mwyn rhoi cymorth i’r di-waith, ond dim ond $30 miliwn a gafodd ei ddefnyddio gan y taleithiau Gweriniaethol oherwydd eu bod nhw'n credu’n gryfach na Hoover mewn unigolyddiaeth rymus [Unigolyddiaeth rymus - Rugged individualism: Y rhyddid i lwyddo a'r syniad y dylai pobl fod yn gyfrifol amdanyn nhw eu hunain.. Roedd llawer yn gweld ymdrech Hoover fel un wan a oedd wedi dod yn rhy hwyr.

Cofia

  • Ysgrifenna dy nodiadau dy hun am ymdrechion cynnar y Gweriniaethwyr.
Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.