Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Hanes > Datblygiad UDA 1929-2000 > Datblygiadau cymdeithasol

Hanes

Datblygiadau cymdeithasol

Blaenorol

Beth oedd y prif ddatblygiadau cymdeithasol yn UDA o 1945-2000?

Newidiadau mewn diwylliant poblogaidd

Sinema a sêr y ffilmiau

  1. Yn y 1920au dechreuodd y sinemâu gael eu hadeiladu ac erbyn 1930 roedd 80 miliwn o bobl yn ymweld â nhw bob wythnos. Ym 1927 cafodd y ffilm The Jazz Singer ei rhyddhau, sef y ffilm gyntaf â sain neu'r talkie cyntaf. Ym 1928 cafodd Mickey Mouse ei wneud yn enwog mewn ffilm gan Walt Disney, Steamboat Willie.
  2. Yn y 1930au roedd ffilmiau am gangsters a sioeau cerdd Broadway yn boblogaidd ac yn ffordd o helpu pobl i anghofio am broblemau’r Dirwasgiad.
  3. Yn y 1940au roedd llawer o’r ffilmiau yn ddramâu am yr Ail Ryfel Byd, ee Casablanca.
  4. Yn y 1950au roedd llai o bobl yn mynd i’r sinema gan fod y teledu wedi cyrraedd y cartref.
  5. Erbyn y 1970au roedd cwmnïau'n rhyddhau ffilmiau mewn cannoedd o ddinasoedd ar yr un pryd ac yn eu hysbysebu ar y teledu. O ganlyniad, roedd ffilmiau fel The Godfather (1972) yn llwyddiannus. Yn y 1970au hefyd, daeth cyfarwyddwyr talentog fel Steven Spielberg a George Lucas i’r amlwg gyda ffilmiau fel Jaws (1975) a Star Wars (1977).
  6. Yn yr 1980au roedd datblygiadau technolegol wedi galluogi cynhyrchwyr ffilmiau i greu effeithiau mwy trawiadol ar y sgrin, ee The Terminator (1984) a Ghostbusters (1984).
  7. Yn y 1990au roedd rhaglenni teledu fel The West Wing ac ER yn boblogaidd. Yn y 1990au hefyd, daeth ffilmiau animeiddio cyfrifiadurol i’r amlwg, ee Jurassic Park (1993) a Toy Story (1995).
Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.