Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Hanes > UDA, Gwlad Gwahaniaethau, 1910-1929 > Newidiadau yn niwylliant a chymdeithas yn America

Hanes

Newidiadau yn niwylliant a chymdeithas yn America

Blaenorol

Rhagarweiniad

Aeth diwylliant a chymdeithas America trwy gyfnod o newid mawr rhwng 1910 a 1929. Roedd gwelliant yn yr economi wedi arwain at gymdeithas draul newydd. Roedd hysbysebu mawr yn y sinemâu ac ar y radio. Roedd recordiau'n cael eu gwerthu'n eang. Daeth cerddoriaeth jazz, gyda’i dawnsfeydd modern a mentrus, yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc. Dechreuodd merched ysmygu a byw bywyd llawer mwy 'rhydd'. Dyma’r adeg pan ddechreuodd arwyr y byd chwaraeon ddod yn arbennig o enwog a chyfoethog, a daeth chwiwiau [Chwiwiau - Fads: Diddordeb dros dro mewn pethau anghyffredin. newydd yn boblogaidd hefyd - pethau fel sefyll ar ben polyn neu gystadlaethau bwyta pysgod aur!

Serch hynny, nid oedd pawb yn hapus â'r sefyllfa hon. Roedd Ffwndamentalwyr Cristnogol yn mynnu cadw at bob gair yn y Beibl, gan ddewis beidio â dysgu syniadau esblygiad Charles Darwin. Roedd yr hen bobl yn cwyno am ddiffyg moesoldeb y bobl ifanc, ac nid pawb oedd â’r arian, na’r hawl, i allu mwynhau’r newidiadau diwylliannol a chymdeithasol yma.

Ffeil

Crynodeb: Newidiadau cymdeithasol y 1920au (ffeil PDF 286 kb)

Methu agor y ffeil? Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gymorth gyda Adobe Reader.

Sut wnaeth adloniant poblogaidd ddatblygu yn ystod y cyfnod hwn?

Sut wnaeth dull byw a statws menywod newid yn ystod y cyfnod hwn?

Pam y bu cymaint o dwf ym myd chwaraeon a gweithgareddau hamdden eraill yn ystod y cyfnod hwn?

Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.