Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Ffiseg > Grymoedd a Mudiant > Effeithiau Grymoedd

Ffiseg

Effeithiau Grymoedd

Blaenorol

Grym, màs a chyflymiad

Mae gwrthrych llonydd yn aros yn llonydd os yw swm y grymoedd sy’n gweithredu arno - y grym cydeffaith - yn sero.

Mae gwrthrych sy’n symud yn parhau i symud ar yr un buanedd ac i’r un cyfeiriad os oes grym cydeffaith sero yn gweithredu arno.

Os nad yw’r grym cydeffaith sy’n gweithredu ar wrthrych yn sero, mae gwrthrych llonydd yn dechrau cyflymu i’r un cyfeiriad â chyfeiriad y grym. Os oedd y gwrthrych eisoes yn symud, yna bydd y grym cydeffaith yn achosi iddo gyflymu, arafu neu newid cyfeiriad.

Mae cyflymiad gwrthrych yn dibynnu ar y grym sy’n cael ei roi arno, ac yn dibynnu ar ei fàs.

Pwysau gwrthrych yw’r grym sy’n gweithredu arno o ganlyniad i ddisgyrchiant. Cryfder maes disgyrchiant y Ddaear yw 10 N/kg.

Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.