Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Ffiseg > Grymoedd a Mudiant > Pellter, Buanedd a Chyflymiad

Ffiseg

Pellter, Buanedd a Chyflymiad

Blaenorol

Cynrychioli mudiant

Buanedd yw’r pellter sy’n cael ei deithio mewn amser penodol. Ar graff pellter-amser, mae’r goledd yn cynrychioli buanedd y gwrthrych sy’n symud.

Cyflymder gwrthrych yw ei fuanedd mewn cyfeiriad penodol. Ar graff cyflymder-amser, mae’r goledd yn cynrychioli cyflymder y gwrthrych sy’n symud.

Mae’r pellter sy’n cael ei deithio yn hafal i’r arwynebedd o dan y graff cyflymder-amser. Cyflymiad yw cyfradd y newid mewn cyflymder.

Buanedd, pellter ac amser

Buanedd

Pan fydd gwrthrych yn symud mewn llinell syth ar fuanedd cyson, gallwch gyfrifo ei fuanedd os ydych chi’n gwybod pa mor bell mae’n teithio a faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’r hafaliad hwn yn dangos y berthynas rhwng y buanedd, y pellter teithio, a’r amser sy’n cael ei gymryd.

  • Er enghraifft, mae car yn teithio 300 metr mewn 20 eiliad.
  • Ei fuanedd yw 300 ÷ 20 = 15 m/s.

I sicrhau eich bod yn deall yr adran hon, rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur.

Efallai yr hoffech wrando ar sgwrs sy'n trafod cyfrifo buanedd.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur.

Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.