Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Ymarfer ysgrifenedig > Ymarfer ysgrifenedig

Drama

Ymarfer ysgrifenedig

Blaenorol

Gwneud yr ymarfer ysgrifenedig

Fe fyddi di wedi astudio un o'r dramâu canlynol yn y dosbarth:

  • Crash gan Sera Moore Williams
  • Diwedd Dyn Bach gan Arthur Miller
  • Esiampl Dr Korczak gan David Greig
  • Sparc â'r Siarc gan Philip Ridley
  • Gwely Oer gan Joe Staderline

Bydd y darn adolygu hwn yn dy helpu i ateb y papur.

Cofia:

  • Mae'r cwestiynau wedi'u graddio: mae llai o farciau am y rhai haws - mae mwy o farciau yn tueddu i fod am y rhai anoddach.
  • Mae amseru yn bwysig iawn! Awgrymir dy fod yn treulio 1 awr 10 munud ar Adran A ac 20 munud ar Adran B.
  • Pa bynnag ddrama rwyt wedi'i hastudio, fe fydd y cwestiynau’r un fath. Paid ag anghofio canolbwyntio dy ateb ar yr olygfa sydd yn y papur arholiad.

Sillafu, atalnodi, gramadeg (SAG)

  • Mae SAG yn golygu sillafu, atalnodi a gramadeg. Nid oes ots pa mor daclus yw dy lawysgrifen ond mae'n help os bydd dy waith mewn trefn.
  • Er nad yw marciau yn cael eu rhoi'n benodol am sillafu, atalnodi a gramadeg, byddai arholwr yn eu hystyried wrth benderfynu ar y marc mae dy ateb yn ei gael.
  • Gwna'n siŵr dy fod yn defnyddio prif lythrennau ar gyfer holl enwau cymeriadau [Cymeriad: Y person/persona y mae’r actor yn dymuno ei gyfleu. Tueddir i ddefnyddio’r gair i olygu'r rôl, ond mae’r gair cymeriad yn tueddu i fod ag ystyr mwy penodol sy’n cyfeirio at berson go iawn. Er enghraifft gallai cymeriad chwarae nifer o rolau mewn drama, megis rhiant, cyflogwr a chyfaill, fel y mae unigolion yn ei wneud mewn bywyd go iawn. Hefyd gall actor chwarae nifer o wahanol rolau mewn drama a phob un ohonynt yn gymeriadau gwahanol., gwledydd, dramodwyr ac ati.
  • Copïa'r geiriau yn ofalus o'r papur cwestiwn, yn enwedig enwau fel Dr Korean.
  • Rho atalnodau llawn ar ôl pob brawddeg a gwna'n siŵr fod pob brawddeg yn gwneud synnwyr.
  • Gwiria dy atebion os oes amser gen ti.

Eglurder

  • Cofia y bydd dy atebion yn cael eu marcio gan rywun sydd ddim yn dy adnabod. Ni fydd yr arholwr yn gallu deall dy ateb os na fyddi di'n egluro pethau'n llawn.
  • Gwna dy atebion mor glir â phosibl. Paid â cheisio bod yn ddoniol.
  • Bydd gan yr arholwr 400 o sgriptiau i'w marcio. Ceisia ofalu fod dy sgript di'n hawdd ei farcio. Gwna'n union fel mae'r cwestiynau yn gofyn i ti ei wneud.

Pob lwc!

Blaenorol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.