Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio > Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Drama

Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Dewis arddull neu ymarferydd ar gyfer dy ddarn wedi'i ddyfeisio

Un o'r pethau y mae angen i ti eu hystyried wrth ddyfeisio dy berfformiad arholiad yw pa arddull neu pa ymarferydd sy'n mynd i gael dylanwad ar dy waith.

Ymarferydd

Rhywun sydd wedi cael dylanwad aruthrol ar sut mae dramâu wedi cael eu hysgrifennu, eu perfformio neu eu llwyfannu. Mae'r bobl hyn wedi newid byd y theatr ac yn sicr, fe fyddan nhw wedi dylanwadu ar y gwaith y byddi di'n ei ddyfeisio a'i berfformio.

Dyma rai ymarferwyr rwyt ti o bosibl yn gyfarwydd â nhw:

  • Konstantin Stanislavski
  • Betrolt Brecht
  • Augusto Boal
  • Antonin Artaud

Ffeil

Lawrlwytha'r ddogfen hon i ddarllen mwy am brif ddulliau a thechnegau rhai o'r ymarferwyr mwyaf dylanwadol (ffeil PDF 398kb)

Methu agor y ffeil? Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gymorth gyda Adobe Reader.

Arddull

Yn golygu ffordd arbennig o berfformio. Weithiau mae arddull wedi'i gysylltu'n agos ag ymarferydd penodol, ee mae cysylltiad agos rhwng Naturoliaeth a Stanislavski; mae cysylltiad agos rhwng Theatr y Fforwm a Boal; mae cysylltiad agos rhwng Theatr Gorfforol ac Artaud.

Dyma rai arddulliau eraill rwyt ti o bosibl yn gyfarwydd â nhw:

  • Comedi
  • Trasiedi
  • Melodrama
  • Theatr Cerdd
  • Theatr mewn Addysg

Mae i bob arddull ac ymarferydd ddulliau a thechnegau sy'n unigryw iddyn nhw er eu bod ar adegau dan ddylanwad eraill!

Dy dasg di yw dangos i dy athro a'r safonwr dy fod yn deall y dulliau hyn a sut maen nhw wedi dylanwadu ar dy waith paratoi ac ar dy berfformiad terfynol.

Mae'n bwysig iawn dy fod yn dewis rhywbeth sy'n gyfarwydd i ti a dy fod yn gwybod rhywbeth amdano.

Ffeil

Lawrlwytha'r ddogfen hon i gael mwy o wybodaeth am arddulliau gwahanol (ffeil PDF 398kb)

Methu agor y ffeil? Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gymorth gyda Adobe Reader.

Awgrym yr arholwr:

Wrth ddewis arddull neu ymarferydd ar gyfer dy berfformiad wedi'i ddyfeisio terfynol, ceisia ganolbwyntio ar un penodol. Bydd cymysgu llawer o ddulliau ac arddulliau gwahanol yn gwneud i dy berfformiad edrych yn flêr a digyswllt.

Gweithgaredd ymarferol:

Cer yn ôl i'r sefyllfa oedd yn defnyddio ysgogiad seiliedig ar wefryrru. Sut allet ti ei addasu i ddangos:

  • Dulliau Stanislavski
  • Dulliau Artaud
  • Arddull Theatr mewn Addysg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.